Mae'r teithiau hyn yn ddigwyddiad blynyddol adeg y Pasg ers nifer fawr o flynyddoedd bellach ac mae mwyafrif y teithwyr wedi eu cefnogi yn ffyddlon o flwyddyn i flwyddyn. Eleni eto, roedd elw'r daith yn mynd tuag at Theatr Twm o'r Nant. Ar ôl croesi ar y cwch cyflym o Gaergybi i Dun Laoghaire, cyrraedd Port Lairge (Waterford) ganol y prynhawn ac i mewn i Westy'r Bridge a oedd yn gartref i'r criw tan fore Sul. Clamp o westy braf yn edrych tros yr Afon Suir ac o fewn rhyw ddeg munud o gerdded i ganol y dref.
Yr unig weithgaredd addas ar y noson gyntaf ar ôl taith hir oedd dadbacio, ymlacio ac ymlwybro'n hamddenol i'r ystafell fwyta am swper. Yna ffeindio cornel yn y bar i ddrachtio'r awyrgylch (du a gwyn yn bennaf). Llwyddodd un o'n mysg i gael yr egni i ganu "Myfanwy" i Mrs Voyle, gan ddenu edmygedd y trigolion lleol.
Gweithgaredd arall oedd yn gofyn am gryn ddyfeisgarwch oedd smocio. Pasiwyd deddfwriaeth yn y wlad yn ddiweddar yn gwahardd yr arfer afiach yma ymhob tafarn a siop ac unrhyw le arall heblaw yr awyr agored. Doedd dim amdani felly ond mynd allan i'r oerfel am smôc. Treuliodd un neu ddau fwy o amser ar y stryd y tu allan i'r gwesty na'r tu mewn.
Roedd y jôcs ar adegau yn erchyll; dro arall reit ddoniol. Cwestiwn: Sawl dyn sydd ei angen i odro buwch efo llaw? Ateb: 24 un i bob teth a'r 20 arall i ysgwyd y fuwch i fyny ac i lawr! Cwestiwn: Sut ydach chi'n nabod Sais mewn "car-wash"? Ateb: Fo yw'r un ar foto-beic!
Wn i ddim faint o gysylltiad a fu dros y canrifoedd rhwng Dinbych a Port Lairge, ond yr oedd yna sgwâr John Roberts yng nghanol y dref er mawr ddifyrrwch i'n cyd-deithiwr o Llys Catrin. Syndod hefyd oedd canfod mewn arddangosfa hanes y mynach John Clyn, sydd yn amlwg wedi dod yn ôl i'r ddaear hon fel blaenor yn y Fron!
Aeth Dafydd y gyrrwr bws â ni i Corcaigh (Cork), ail ddinas fwyaf Iwerddon, ar y Dydd Iau gan roi cyfle i'r gwragedd ysgafnhau ychydig ar waledi eu gwŷr. Galwyd heibio i Gastell Blarney ar y ffordd, lle mae'r garreg enwog y dylid ei chusanu i gael 'dawn dweud'. Yn ôl un o'r teithwyr, dyma'r sws orau a gafodd ers talwm.
Rhag ofn i neb feddwl mai mynd i ofera yr oeddem, cawsom ein trwytho yng nghelfyddyd, hanes a diwylliant yr ardal. Taith o amgylch ffatri Risial Waterford a ddangosodd gelfyddyd inni. Roedd y crefftwyr yn ennyn edmygedd pawb, ac yn haeddiannol o ystyried fod prentisiaeth o 10 mlynedd i grefftwr cyffredin, a 25 mlynedd i'r meistri.
Cawsom hanes y dref yn fanwl gan guradur arddangosfa "Trysorau Waterford". Fo oedd Bobi Owen Port Lairge, gan fod yr hanes ar flaenau ei fysedd. Cawsom y lle i ni ein hunain gan fod Medwyn yn adnabod y Curadur yn rhinwedd ei swydd.
Y diwylliant oedd y canu Gwyddelig traddodiadol yn rhai o dafarnau'r dref, a fwynhawyd yn arbennig yn ôl y sôn gan Ceinwen Mallon. Cawsom ddiwylliant o fath arall ar y ffordd yn ôl i Dun Laoghaire Ddydd Sul wrth alw ym mhentref bychan Avoca. Dyma leoliad y gyfres deledu Ballykissangel a chafodd ffans y gyfres fodd i fyw yn ymweld â'r eglwys yno.
Oedd, yr oedd hon yn daith i'w chofio - digon o hwyl, bwyd a diod blasus a chwmnïaeth hapus. Ni chafwyd unrhyw ffrae, dim ond ambell i ddadl athronyddol ynglŷn â materion o bwys megis sawl pâr o sgidiau ddylai rhywun fynd efo nhw ar wyliau. Profwyd yn wyddonol nad oedd un pâr yn ddigon ar dywydd gwlyb os oedd twll yn y gwadnau.
Diolch o galon i yn John am drefnu. Edrychwn ymlaen at y daith nesaf.