Mae'r Cylch yn cynrychioli 141 o drefi gyda muriau caerog mewn 27 o wledydd. Roedd 120 o gynrychiolwyr o 16 o wledydd yn bresennol. Roeddwn yno yn rhinwedd fy swydd fel Trysorydd Rhyngwladol y Cylch. Dyma fraslun o'r wythnos:
Cyrraedd Waterford ar y nos Sadwrn ac allan gyda chyfeillion o Gaer a Chonwy i fwynhau pryd blasus a dropyn bach o'r hylif du!
Ar ôl bore Sul i ni ein hunain i grwydro ychydig o gwmpas y ddinas aethom ar wibdaith i Clonmines - enghraifft wych o dref ganoloesol a adawyd yn ddiffaith ar ddechrau 16eg ganrif. Yna ymlaen i Abaty Tintern (a adeiladwyd gan fynachod o dde Cymru) a goleudy Hook, un o oleudai gweithredol hynaf Ewrop. Y cyfan wedi eu sefydlu gan William Marshal, Iarll Penfro yn y l2fed ganrif.
Bore dydd Llun cafwyd agoriad swyddogol i'r gynhadledd. Treulio gweddill y bore yn gwrando ar nifer o anerchiadau yn ymdrin â Muriau Tref, Tŵr Reginald yn Waterford a rhaglen arbennig oedd yn ymdrin â dysgu hanes lleol i ysgolion meithrin yn Piran, Slofenia. Amser cinio cafwyd y cyfle i gael taith a chinio ar gwch ar yr afon Suir.
Yn y prynhawn cyfarfod o'r pwyllgor gwaith.
Bore dydd Mawrth cafwyd anerchiadau a thrafodaethau ar y pwnc Dathlu a Gweinyddu ein Treftadaeth. Yn dilyn cinio aethom ar wibdaith i Kells Priory, Co Kilkenny - y Priordy amgaeedig mwyaf yn Iwerddon a sefydlwyd yn 1193. Gadawyd y safle yng nghanol yr 16eg ganrif. Aethom ymlaen i Kilkenny lle cafwyd y cyfle i ymweld â'r Eglwys Gadeiriol ganoloesol a'r tŵr crwn a chrwydro'r dref.
Min nos, aethpwyd â ni ar daith o amgylch Castell Kilkenny ac yna mwynhau pryd blasus gydag adloniant Gwyddelig yn y Castell.
Dydd Mercher aethom ar daith diwrnod i Gastell C16 Ormond, Carrick-on-Suir - unig Faenordy oes Elisabeth yn Iwerddon. Yna ymlaen i dref caerog Fethard. Cafwyd cinio a thaith yng nghastell C14 Cahir.
Ymlaen wedyn i Cashel i weld yr enwog a dramatig, Rock of Cashel - cofadail o bwysigrwydd er y 4edd ganrif. Ar ôl swper bu dathlu pen-blwydd 1000 Tŵr Reginald gyda sioe oleuadau a sain. Bore dydd Iau anerchiadau a thrafodaethau ar y themâu Gwerth Gorau mewn Cadwraeth, Cynllunio Trefol a Bwriadau Cynlluniau Trefol.
Yn y prynhawn, taith i weld Eglwys Gadeiriol a thwr Ardmore a safle mynachdy Sant Declan o'r 6ed ganrif, Gerddi Castell Lismore a the yn Eglwys Gadeiriol Lismore.
Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Cylch ar fore dydd Gwener. Yna ar daith i weld Gweithdai Grisial Waterford ac amgueddfa Waterford Treasures. Awr neu ddwy yn rhydd yn y prynhawn i edrych o amgylch Waterford yna i agoriad swyddogol arddangosfa o luniau castelli a threfi caerog.
I gloi y gweithgareddau trefnwyd swper ar ein cyfer gan Gyngor Dinas Waterford. Y gŵr gwadd oedd Mr Martin Cullen TD, Gweinidog yr
Amgylchedd a Llywodraeth Leol. Yn ystod ei araith cymerodd y cyfle i gyhoeddi fod dinas Waterford i dderbyn 2 filiwn euro oddiwrth y llywodraeth i atgyweirio muriau'r dref.
Dydd Sadwrn, ei throi hi tuag adref. Wythnos brysur a blinedig ond wedi mwynhau pob munud. Sgwrsio a chyfarfod cyfeillion newydd fel Petra o'r Weriniaeth Czech; Nada o Piran, Slofenia; Luigi o'r Eidal; Magdalena o Majorca; Franz o Awstria; Attila o Pecs, Hwngari; Gerry o Derry, Gogledd Iwerddon a Jim a'i deulu o Dundalk a chael cyfle i ailgwrdd a chyfeillion o Malta; Waterford; Zadar, Croatia; Naarden yn yr Iseldiroedd; Caer a Chonwy.
Am na chefais lawer o gyfle i grwydro o amgylch Waterford ac i weld Tŵr Reginald, y ddwy Eglwys Gadeiriol a adeiladwyd gan yr un pensaer a'r amgueddfa wych, edrychaf ymlaen at y cyfle i fynd yn ôl gyda John Howatson a'r criw fis Ebrill nesaf!!