| Braf yw meddwl fod gan yr actores amryddawn, Siân Naomi o Ddinbych, ddigon o waith ar ei phlât y dyddie hyn. Fel y gellir amgyffred mae Siân yn perthyn i broffesiwn lle mae'r gystadleuaeth am waith yn gallu bod yn anodd dros ben. Yn y byd teledu mae Siân ar hyn o bryd i'w gweld ar a Tipyn o Stad ac yn ddiweddar gwelwyd hi yn arddangos ei eitemau dillad ar Cwpwrdd Dillad. Ar y radio clywir ei llais ar
Terrible Tales of Wales, y BBC Radio Wales, Rhyd Eglwys a Post Mortem. Yn ogystal mae Siân yn lleisio 'Winx Cartoon' ac yn addasu sgriptiau cartŵns i blant. Ac i goroni'r cwbl bydd Siân yn ymddangos mewn pennod o Holby City fel alcoholig! Bu wrth gwrs yn actio yn Pobol y Cwm am gyfnod. Wel dyna amrywiaeth o raglenni, radio a theledu gan ferch gyda doniau arbennig sydd heb gael y sylw haeddiannol fel llawer i un yn y byd cyfryngau.
Ei gobaith yn y dyfodol yw datblygu ei hun fel sgwennwr ar gyfer y cyfryngau a hyd yn oed datblygu sgiliau tu ôl i'r camera a chynhyrchu. Beirniad yr Urdd
Bydd Siân yn beirniadu yn yr adran theatr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Rhuthun eleni. Merch yw Siân i Geraint a Beti Roberts, Gwynfa, Ffordd Rhuthun, dau sydd wedi amlygu eu hunain yn y byd cerddorol, a chwaer i Dewi a Gareth, yr efeilliaid, sydd wedi profi eu hunain yn gricedwyr medrus gyda Tîm Criced Dinbych.
Cafodd Siân ei haddysgu yn Ysgol Twm o'r Nant, Ysgol Glan Clwyd a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn Drama a Saesneg. Dymunir pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.
 |