BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Jenny PyeBeicio Noddedig a Salsa i Guba
Pasg nesaf bydd aelod o Gymru Cuba, Jenny Pye o Lanbedrgoch ym Môn, yn seiclo 1,200 milltir ar hyd ynys Cuba i godi arian ar gyfer prosiectau iechyd ac addysg yn y wlad.

Mae hyn yng ngoleuni y blocâd ar yr ynys gan yr Unol Daleithiau gwarchae sy'n gwasgu ers dros ddeugain mlynedd bellach.

Er mwyn rhoi cefnogaeth i daith noddedig Jenny mae Cymru Cuba yn cynnal noson o gerddoriaeth salsa byw yn Neuadd y Dref, Dinbych ar nos Sadwrn y l5ed o Dachwedd pan fydd y chwechawd hynod 'Los Youmas' yn perfformio son Cubanaidd.

Mae gan Jenny gryn brofiad o deithiau beic noddedig gan iddi eisoes drefnu teithiau llwyddiannus yn Ne Affrica a De America. Bydd hyd at ddeg o bobl yn cymryd rhan ar y daith yng Nghuba, pob un yn talu eu costau eu hunain ac yn codi isafswm o £500 yr un o nawdd.

Tros y blynyddoedd diwethaf cododd Cymru Cuba dros £3,000 ar gyfer prosiectau iechyd ac addysg yng Nguba. Y gobaith yw y bydd ymdrechion Jenny yn codi mwy na £5,000.

Dysgwraig y Flwyddyn
Bydd rhai o ddarllenwyr Y Bigwn yn cofio Jenny. Enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 1988.

Mae nosweithiau salsa Cymru Cuba, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn yn Ninbych, yn hynod boblogaidd gyda dilynwyr salsa ar draws gogledd Cymru a'r gororau. Chwaraeodd rhai o brif fandiau Cuba yn Ninbych, gan gynnwys y byd enwog Sierra Maestra.

Ar nos Sadwrn y 15ed o Dachwedd bydd y band Cubanaidd "Los Yumas" yn chwarae dan arweiniad y canwr Leo Duany, sy'n hanu'n wreiddiol o Santiago de Cuba. Byddant yn perfformio son Cubanaidd clasurol, sef gwreiddiau salsa, gan ddod â synau a chynnwrf yr ynys yn y Caribi i gynulleidfa yng ngogledd Cymru.

Dysgu dawnsfeydd yr ynys
Cyn y perfformiad bydd rhai o aelodau Salsa Cymru, sydd â'u canolfan yn Yr Wyddgrug, yn dangos a dysgu symudiadau sylfaenol dawnsio merengue. Bydd modd, felly, i'r sawl sy'n newydd i salsa fwynhau dawnsio drwy gydol y noson. Yn y bar fe gynigir dewis o coctêls Cubanaidd, gwin, cwrw, lager a diodydd di alcohol ac ar stondin lyfrau Cymru Cuba gwerthir crysau T a chryno ddisgiau yn ogystal â llenyddiaeth am Guba.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy