BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Madfall ddŵr Dreigiau dŵr bychain ar eu hennill
Bydd madfallod dŵr cribog - dreigiau dŵr bychain Cymru - ar eu hennill yn sgil datblygiadau a fydd yn digwydd cyn bo hir ym Mharc Busnes Gogledd Cymru.

Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu Parc Busnes Llanelwy yn Sir Ddinbych ar gyfer pobol ac anifeiliaid!

Mae Asiantaeth Datblygu Cymru yn ehangu cyfleusterau'r Parc ar gyfer creu swyddi newydd a chyfleoedd buddsoddi yn yr ardal, a hefyd yn ceisio darparu cartrefi newydd ar gyfer un o'r anifeiliaid sydd o dan fygythiad mawr yng Nghymru - y fadfall ddŵr gribog.

Hafan ddiogel i'r madfallod
Fe gafwyd hyd i'r madfallod yn byw mewn lle yr oedd yr Awdurdod eisiau datblygu unedau busnes newydd a Thechnetiwm OPTIC arno.

Felly mae staff y Cyngor Cefn Gwlad wedi bod yn gweithio'n glos gyda'r Asiantaeth i symud y dreigiau dŵr bychain yma i hafan ddiogel newydd sydd wedi ei greu yn unswydd ar eu cyfer. Hyd yn hyn, mae'r Awdurdod wedi ail-leoli dros 200 o fadfallod.

Er bod y safle wedi ei chynllunio fel bod yna goridorau a darnau gwyrdd ar gyfer pob math o fywyd gwyllt, ni fydd 8 hectar o dir yn cael eu datblygu o gwbl.

Mae arwyneb arloesol y ffyrdd yn nodwedd o'r safle hefyd ynghyd â'r systemau draenio na fydd yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar y madfallod.

Creu'r amodau iawn
Mae 12 o byllau wedi eu creu ac mae chwe chilomedr o ffensys ar gyfer madfallod wedi eu gosod.

Meddai Matthew Ellis, Swyddog Rhywogaethau CCGC yng Ngogledd Ddwyrain Cymru: "Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n glos gydag Awdurdod Datblygu Cymru i greu'r amodau iawn ar gyfer y madfallod. Mae'n nhw'n treulio'r gaeaf yn gaeafgysgu mewn lloches cyn mynd i byllau ar gyfer dechrau'r tymor bridio.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd datblygwyr ac awdurdodau eraill yn dysgu pethau newydd yn sgil y prosiect yma, ac yn defnyddio'r technegau newydd mewn safleoedd eraill.

"Mae'r prosiect yma wedi profi bod modd i ni ddatblygu safleoedd arbennig a fydd o fudd i fywyd gwyllt yn ogystal â phobol, bod modd i ni gael jam ar ddwy ochr y frechdan, fel petai," ychwanegodd.

Dywedodd Chris Farrow, Cyfarwyddwr Gweithredol ADC - Gogledd Cymru: "Mae'r Asiantaeth yn ystyried o ddifrif materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a bywyd gwyllt. Mae ein tîm wedi bod y gweithio llawer iawn gyda CCGC i sicrhau bod y madfallod yn cael eu symud yn ddiogel i'r safle newydd ac i rwystro cynefinoedd eraill yn yr ardal rhag cael niwed."

Ffeithiau am fadfallod:
- Mae yna dair rhywogaeth o fadfallod yn y DU - y fadfall ddŵr gribog, y fadfall ddŵr gyffredin a'r fadfall ddŵr balfog.

- Croen dafadennog du sydd gan y fadfall ddŵr gribog, gyda chrib tonnog uchel ar hyd ei chefn. Lliw oren neu felyn sydd ar ei bol, fel arfer - ffordd o rybuddio darpar ysglyfaethwyr ei bod yn wenwynig.

- Maen nhw'n bwyta unrhyw beth dan haul, cyn belled ag y medran nhw ei wthio i'w cegau!

- Dim ond mewn pyllau heb bysgod sy'n bwyta penbyliaid y gall madfallod fyw.

- Rhaid cael trwyddedau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn y cewch chi gyffwrdd a symud madfallod


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy