| Fe'i anwyd yn Llanrhaeadr ym Mochnant yn 1927, ond collodd ei fam yn ifanc iawn a symudodd i Ddinbych i fyw gyda'i Nain. Yn dilyn ei marwolaeth hi, aeth i fyw gyda'i fodryb a'i ewythr yng Nghae Drain yn 1941. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Dinbych rhwng 1938 a 1946, a daeth i adnabod cyfoedion fel Dr Gwyn Thomas, Bobi Owen a sawl un arall. Treuliodd ddwy flynedd ym Myddin Prydeinig y Rhein o 1945 ymlaen, gan orffen ei wasanaeth fel Sarjant - Hyfforddwr yng Nghorfflu Addysg Brenhinol y Fyddin. Oddi yno aeth i Brifysgol Lerpwl i astudio am flwyddyn yng Nghyfadran Milfeddygaeth y Coleg, cyn bugeilio am flwyddyn yn Llandegla. Aeth ymlaen i ennill Gradd BSc gydag anrhydedd ym Mangor yn 1954, ac yna ymfudodd i Awstralia yn 1955 i redeg fferm ddefaid anferth a dod, yng nghyflawnder amser, yn Athro Astudiaethau Bugeiliol (Amaethyddiaeth) ym Mhrifysgol NSW, Sydney. Mae bellach wedi ymddeol o'i swydd ac o redeg y fferm, ond mae'n parhau yn ddyn prysur. Derbyniais ddau lun gan Dr Gwyn yn ddiweddar, a dywedodd fod yr Athro Davies yn "dipyn o gymeriad". Clywais hanesyn neu ddau amdano i brofi hyn. Cysylltais â'r Athro drwy e-bost, ond nid yw'n awyddus inni gyhoeddi'r straeon, rhag creu embaras i eraill, efallai! O'r wybodaeth a dderbyniais gan Dr Gwyn ac o Awstralia, mae'n ymddangos mai'r Athro Davies yw Archdderwydd Gorsedd Cymry Awstralia ac yn Ddirprwy Uwch-Gynullwr Cyngor Celtaidd Awstralia. Fel "Arch-Dderwydd" y mae'n arwain Gweddi'r Orsedd o'r Maen Llog yng Ngŵyl Geltaidd Glen Innes. Gellir dadlau mai hon yw'r ŵyl Geltaidd fwyaf blaenllaw yn y wlad. Fe gynhelir yr Ŵyl hon yn flynyddol ar Galan Mai, i gydnabod cyfraniad y Celtiaid tuag at fywyd diwylliannol, cymdeithasol, diwydiannol, addysgiadol a chrefyddol Awstralia er 1788. Ar y Sul ceir cyfle i'r cymunedau Celtaidd unigol gynnal eu defodau traddodiadol eu hunain. Yn naturiol ddigon, seremoni'r Orsedd a gynhelir gan y Cymry, gan gynnwys Gweddi'r Orsedd a'r Alwad am Heddwch. Mae'r llun uchod yn dangos yr Athro Davies a'i wraig, Helen, wrth y ddesg yn eu cartref yn Coogee, ger Sydney.
 |