| Bellach, 'gyda dros 110 o blant, mae Antur Liwt yn mynd o nerth i nerth ac yn edrych ymlaen at weithgareddau cyffrous yn 2006. Uchafbwynt yn 2005 oedd ennill rownd derfynol cystadleuaeth 'Cantorion Ifanc Theatr Gerdd' yn y Pafiliwn yn Rhyl gyda grŵp o flwyddyn 7 ac 8. Eleni eto bydd grŵp bl. 7 ac 8 yn cystadlu o dan 15 oed, a grŵp o fl. 9 i fyny yn cystadlu dros 15 oed. Yn 2005 hefyd cawsom berfformio yng Nghyngherddau Cyhoeddi'r Eisteddfod, ac yn 'Niwrnod Celfyddydau Cymreig Rhyl', yng ngŵyl 'Celfyddydau mewn Ysgolion Sir Ddinbych' a gyda Shân Cothi ac 'Only Men Aloud' ym Mhafiliwn Y Rhyl. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at Eisteddfod Sir Ddinbych, a bydd holl aelodau'r Antur Liwt yn cael cyfle i berfformio ar y Maes. Bydd ein criw cynradd yn perfformio darn yn dwyn y teitl 'Dwylo' ar ddechrau'r wythnos, a'r criw hynaf yn cystadlu ar y Nos Sadwrn. Rydym bob amser yn croesawu aelodau newydd. Mae bl. 5, 6, 7 ac 8 yn cyfarfod yng Nghanolfan Eirianfa ar Nos Lun rhwng 4.30 a 6.30, a bl. 9 i fyny yn dod rhwng 6.30 a 8.30. Ar Nos Fawrth mae bl, 2, 3 a 4 yn cyfarfod rhwng 4.30 a 6.30.
Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch ag Eleri neu Mali ar 01745 816661 neu 07733 360995.
 |