Mae'n ymddangos gyntaf ar Gyfrifon 1861 pan oedd Robert a Hannah
Roberts a'u teulu yn byw yno. Ganed Hannah yn 1823 yn Hafoty'r Hendre, yn ferch i Edward a Catherine Lewis.
Bu'n
gweithio fel morwyn a thra'n gweini yn
Tyddyn Dafydd, priododd a Robert
Roberts, mab Richard a Catherine Roberts, Pen y Foel ar 6.5.1843.
Aethant i fyw i gartref Hannah, sef
Hafoty'r Hendre, lle ganed iddynt
Eleanor yn 1846 a Catherine yn 1848.
Dwi ddim yn sicr ymhle ganed Richard
yn 1854 a Hannah yn 1860.
Dengys Cyfrifon 1871 fod y teulu dal yno
a Robert Roberts yn 51 oed a'i wraig
Hannah yn 47.
Dim ond Hannah, Y
plentyn ieuengaf, oedd yn dal i fyw
gartref gyda'i rhieni.
Hefyd, roedd
Catherine Lewis, 91 oed, wedi dod yno at eu teulu a bu forwyn Mhen y Cefn ar 3.7.1872.
Erbyn Cyfrifon 1881 dim ond Robert
Roberts a'i wraig Hannah sydd yno, a'r
un fath yn 1891. Bu farw Robert Roberts
ym mis Ebrill1891 ac fe'j claddwyd ym mynwent eglwys Gwytherin.
Bu farw
Hannah ei wraig yn 6 Heol Watling yn 1903.
William Pritchard a'i wraig Ellin sy'n
ymddangos yno ar Gyfrifon 1901.
Roedd
William yn 31 oed, yn enedigol o Lanfair
Talhaiarn a'i wraig Ellin yn 32, wedi ei
geni yn Llangernyw.
Yng nghofnodion
Eglwys Llanddewi, Pandy Tudur, mae'r canlynol :
"10.6.1891 Priodas William Pritchard, 23 oed, yn byw ar y pryd ym Mhandy Tudur, ac yn fab i Thomas Pritchard, lIafuriwr, ag Ellin Jones, 23 oed, yn byw ar y pryd yn Rhos Mawn, merch John Jones, lIafuriwr."
Roedden nhw'n dal i fyw ym Mhen y Cefn yn 1911, a dengys Cyfrifiad y flwyddyn honno eu bod yn briod ers ugain mlynedd a heb gael plant.
Bu Mr a Mrs Hywel Rowlands yn byw yno am gyfnod, a'u plant yn mynychu ysgol Pandy Tudur.
Ar ôl symud i Tan y Bryn yn 1936, bu Elsie May, Hywel
Hefin, Dilys Hwfa a Doris Hilda yn aelodau yn ysgol Gwytherin.
Yn 1942 claddwyd gwr o'r enw William Jones, 83 oed, oddi yno.
Mae amryw o'r fro yn dal i gofio Miss
Ffoulks, neu Miss Volkes fer y'i sillafwyd ar gofnodion yr eglwys, yn byw yno, gyda'i chathod, cŵn, ieir a ch'logod, yn cadw cwmni iddi yn ei chegin.
Claddwyd Maud Daisy Ann Volkes yn 60 oed ym mynwent yr eglwys ym mis lonawr 1951.
Tua 1954 daeth William a Bet Edwards
yno gyda'u merch Ann a thri o blant Bet o'i phridaas gyntaf, sef Sally, Peter a Glenys Abbot.
Yna ganed iddynt yr efeilliaid John ac Emlyn a'r flwyddyn ganlynol, par arall o efeilliaid sef Gareth a Trefor.
Cyn bo hir wedyn, ganed Wyn, yr ieuengaf.
Bu'r teulu yno tan ganol y saithdegau cyn symud i lawr i Fae Cinmel, ger y Rhyl.
Yn fuan wedyn daeth Mr a Mrs Collard yno. Eu mab Gordon sydd yno rwan.
Heulwen Ann Roberts