Cynhaliwyd Sadwrn Siarad lIwyddiannus a bywiog, ddydd Sadwrn Hydref 3ydd, diwrnod arbennig iawn, oherwydd roedd hi'n ddiwrnod priodas Llinos ac Aled yng Nghapel Coffa Henry Rees, Llansannan.
Yn ystod y cyfarfod derbyniwyd gwahoddiad annisgwyl i fynychu'r briodas, felly heb oedi dim, aethom i'r Capel, ble gawsom gyfle i gael sgwrs gyda'r gwesteion eraill tu allan i'r capel wrth aros i Llinos gyrraedd.
Braf iawn oedd gweld y briodferch yn cyrraedd y capel ar dractor wedi'i addurno gyda blodau
'prydferth (fel yr oedd giât y capel ).
Bu nifer ohonom yn aros i weld a dathlu
defod y briodas tu mewn i'r capel gyda phawb arall, ardderchog!!
Eisteddfod
Ar ôl yr ail gyfarfod ym mis Hydref wnaeth rhai dysgwyr cymryd rhan yn Eisteddfod Bro Aled Llansannan, yn canu, yn adrodd
mewn parti efo nifer o ferched y pentref, ac roedd rhai eraill wedi ysgrifennu
traethodau ar gyfer cystadleuaeth y dysgwyr.
Diolch yn fawr iawn, ar ran y dysgwyr, i bawb oedd wedi trefnu'r Eisteddfod, am eu gwaith caled unwaith eto.
Codi arian
Dydd Sadwrn Tachwedd 21ain, gosodwyd stondinau yn Ysgol Bro Aled gan aelodau Merched Y Wawr, er mwyn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion a chodi pres at elusen Plant Mewn Angen.
Bu'r awyrgylch yn siriol ac yn fyrlymus trwy'r bore ac roedd yn amlwg bod pawb wedi cael llond cart o sbort yn hel chwedlau gyda'n gilydd wrth bori trwy'r cynnyrch ar y byrddau.
Ar ddiwedd y bore roedd £232 wedi'i godi at yr elusen. Da iawn pawb!!!
Roedd mis Rhagfyr yn brysur hefyd, gan fod Ffair Nadolig yn cael ei chynnal yn Eglwys St Sannan ar ôl y sesiwn (session) sgwrs, a phenderfynom gefnogi'r digwyddiad pan orffennodd y cyfarfod.
Cyfrannwyd pres wedi'i gasglu am luniaeth ysgafn yn ystod y cyfarfod, gan Chris a Jackie y tafarnwyr at Ffair yr Eglwys.
Ffermio
Ar drothwy'r mis hefyd wnaeth nifer o ddysgwyr Sadwrn Siarad fynd i'r Hen Hydd, ('Stag') Llangernyw i gymryd rhan mewn cyfweliad o flaen camerâu ar gyfer y rhaglen deledu 'Ffermio'.
Cafodd pawb lawer o hwyl a sbri gyda'r criw
teledu a'r cyflwynydd Alun Elidyr wrth recordio'r darn ac roedd hi'n brofiad
hynod o ddiddorol.
Nadolig Yn ystod Sadwrn Siarad olaf cyn Nadolig darparwyd 'buffet' ar ein cyfer gan Chris a Jackie yn Y Llew Coch.
Bu'r bwrdd yn IIwythog efo bwyd blasus iawn.
Ar ôl i bawb gyfnewid eu cardiau Nadolig, a dymuniadau'r tymor roedd hi'n amser i'w throi hi am adref tan y flwyddyn nesaf a degawd newydd sbon.