Fe brofwyd hynny yn ddiweddar pan werthwyd "Brynffanigl Cracker" am 6600 gini yn Y Trallwng. Cafwyd llwyddiannau cyffelyb mewn marchnadoedd eraill fel Perth a Carlisle.
Ymfalchïwn fod Buches Brynffanigl yn parhau i gynnal hen gysylltiad mewn man lle bu gwartheg yn rhan amlwg o'r cwmwd. Ganrifoedd yn ôl
roedd hen Iwybr y porthmyn gerllaw yn arwain o gefn gwlad Hiraethog i lawr i dref Abergele ac i farchnadoedd eraill y wlad.
Ar dir Brynffanigl Uchaf mae olion hen adeilad a fu'n lloches i'r porthmyn ar eu taith a hyd heddiw fe'i gelwir yn "Llidiart y Porthmyn". Diddorol yw deall mae enw'r closdir gerllaw yw "Cae 'Flaen Drws" sy'n awgrymu mai yma y gadewid yr anifeiliaid tra byddai'r gyrwyr yn gorffwys. Gwyddom, wrth gwrs, fod llawer o ddefnyddio ar llwybrau diarffordd fel hyn i arbed talu'r tollau a godwyd am symud anifeiliaid ar hyd y ffyrdd tyrpeg. Erbyn hyn, fodd bynnag, mewn cerbyd pwrpasol cyflym y bydd gwartheg Brynffanigl yn cyrraedd y marchnadoedd pell!
 |