| Soniodd am y cysylltiad rhwng Llangernyw â Brynaman. Mae gardd gerrig hanesyddol wedi'i hadfer yn Llangernyw - diolch i arian o'r cynllun grantiau Celf a Threftadaeth drwy Bartneriaeth Wledig Conwy. Roedd yr ardd gerrig yn rhan o ymgyrch o blannu coed a ddigwyddodd nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ar draws gweddill Prydain a'r Gymanwlad i ddathlu coroni Brenin Siôr VI yn 1936. Yr ardd gerrig oedd syniad Clarence Hamilton Creasy OBE, awdur ac addysgwr, a symudodd i Langernyw yn 1929 a chreu gardd ysblennydd mewn hen chwarel ar gyrion y pentref (sydd bellach wedi'i hesgeuluso bellach yn anffodus). Plannwyd y Coed Coroni ar draws y pentref a chafodd ei gofnodi mewn llyfr dan y teitl The Royal Record a gyhoeddwyd yn 1939, sy'n gyfnod hynod ynddoi'i hun o raddfa a dylanwad yr Ymerodraeth Brydeinig ychydig cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd a fyddai'n newid cymdeithas am byth. Cyflwynwyd y llyfr The Royal Record i Clarence Creasey, arweinydd y prosiect yn Llangernyw; bydd yn cael ei gyflwyno i Amgueddfa Syr Henry Jones ar ran y teulu Creasey gan Pamela Harris, wyres Clarence Creasey, a oedd hefyd yn goruchwylio'r gwaith o adfer yr ardd gerrig, gyda chymorth aelodau o Glwb Garddio Llangernyw. Cafodd yr arddangosfa, dan y teitle "Coed Coroni" ei agor yn Amgueddfa Syr Henry Jones ar Fai 1af, ar ol dadorchuddio plac coffa yn yr ardd gerrig a chyflwyno'r llyfr i'r amgueddfa.
 |