Hwn yw'r pedwerydd capel yn y pentref ac fe'i codwyd yn y blynyddoedd 1907-8.
Credir bod crefydd wedi cryfhau yn yr ardal o'r 1750au ymlaen, ac mewn llythyr ar 9 Mehefin, 1751, mae rheithor Llangernyw yn diolch i'r Parch Griffith Jones, Llanddowror, am y 'budd a'r bendithion gafodd ardal y Pandy', gan i un o'r ysgolion cylchynol fod yma am gyfnod byr.
Cynhaliwyd ysgol neu gyfarfodydd mewn aml i adeilad o gwmpas yr ardal a'r un enwocaf ohonynt oedd Tŷ'n Pant.
Y capel cyntaf oedd yr un a sefydlwyd ym Mhen y Fedw (neu Ben y Banc) - tŷ annedd oedd hwn mae'n bur debyg. Digon tlodaidd oedd yr adeilad gan i John Elias o Fôn ddweud wrth bregethu yno, na ddoi byth i bregethu i'r Pandy eto nes iddynt gael capel newydd, harddach.
Codwyd hwnnw, yr ail gapel, yn 1824, sef yr adeilad a elwir yn Hen Gapel heddiw. Yr oedd y capel hwn i fod yn ysgol hefyd.
Bu Diwygiad yn 1859 yng Nghymru, a dywedir bod seren gynffon anghyffredin wedi dangos yn yr awyr i gyfeiriad Bodrach.
Nodir mai dim ond yn ystod cyfnod y Diwygiad yr oedd y seren hon i'w gweld. Ni fu dylanwad y Diwygiad yn eithriadol yma, ond yn y flwyddyn ddilynol soniwyd am godi capel newydd, helaethach yn y Pandy. Yn sgil hynny fe drowyd yr ail gapel (Hen Gapel) yn dai annedd pan godwyd y trydydd capel yn 1864.
Adeiladwyd hwn ar safle presennol y capel. Ceir ychydig mwy o wybodaeth am yr adeilad hwn - wynebai o chwith i'r capel presennol, gyda'r pulpud rhwng y ddau ddrws yn nhalcen yr adeilad. (Os edrychir yn fanwl ar sylfeini'r capel ger y drws presennol, fe welir toriad yn y cerrig sy'n nodi lle'r oedd y ddau ddrws blaenorol.)
Rhwng y drysau a'r sedd fawr roedd mainc a chefn uchel iddi i gadw'r gwynt draw. Roedd yn y capel 'seddau dyfnion o dderw du, a drws ar bob sedd' ac roedd codiad o tua llathen o flaen i gefn y capel.
Rhwng y seddau hyn a'r sêt fawr roedd dwy fainc lle'r eisteddai'r plant i ddweud eu hadnodau. Byddai'n ddiddorol clywed os oes gan unrhyw un yn yr ardal wybodaeth bellach ynglŷn a'r capel hwn, neu lun ohono.
Bu trafodaeth ynglŷn a chodi pedwerydd capel o tua'r flwyddyn 1902 ymlaen, gan fod nam ar y waliau, ond ni ellid cytuno ynglŷn a'i leoliad, a rhoddwyd y syniad o'r neilltu dros dro. Yna, teimlwyd grym Diwygiad 04/05 yn y Pandy, a chynhaliwyd cyfarfodydd gweddi bob nos drwy'r gaeaf, gyda'r capel yn llawn.
Penderfynwyd unwaith yn rhagor godi capel newydd a phregethwyd am y tro olaf yn yr hen gapel ar Fawrth 31ain, 1907, gan addoli yn yr ysgol o hynny ymlaen. Pregethwyd yn y capel newydd am y tro cyntaf ar Fehefin 29ain y flwyddyn ganlynol.
Roedd y capel hwn yn adeilad hardd, ychwanegwyd festri helaeth ynghyd ac ystafell i'r blaenoriaid a chegin fechan. Cafwyd golau acetylene yn y capel, gydag adeilad bychan y tu allan i weithio'r golau hwn - galwyd hwn y 'cwt gola'!
Gweithiodd pawb 'heb neb yn tynnu'n groes', oherwydd 'yr oedd gan y bobl galon i weithio.' Dywedir hefyd yn adroddiad cyfrifon adeiladu'r capel, 'Credwn i ni gael arweiniad yr Arglwydd mewn modd neillduol at y gwaith, fel yr hen genedl gynt i adeiladu mur Jerusalem'.
Yn ôl un cofnod dywedir i'r festri gael ei chwblhau o flaen y capel, ond ni ellir bod yn sicr o hyn gan mai plentyn oedd y cofnodwr adeg yr adeiladu. Dywedir hefyd mai'r rheswm bod to'r capel mor uchel, oedd rhag ofn y byddai angen codi galeri rhyw ddydd.
Yr oedd gwerth yr adeilad newydd yn £1872.15.11 - swm enfawr yn y cyfnod hwn, yn enwedig i ardal fechan. Codwyd symiau mawr o arian gan bobl y Pandy a chysylltiadau o'r tu allan, ac fe werthwyd coed a seddau'r hen gapel (dywedir i'r rhan fwyaf o'r seddau gael eu gwerthu i ffermydd lleol - a oes rhai ohonynt yn dal ar gael heddiw?).
Cafwyd benthyciad o £1000, ymhen rhyw chwe blynedd roedd y ddyled wedi lleihau i £650. Felly mewn cyfnod byr roedd yr ardal wedi talu tua £1200 o gostau codi'r capel. Ni fedrwn heddiw ond edmygu'r ymdrech a'r aberth a fu i godi'r capel hwn.
Mererid Jones.