Roedd Eirian, Sian a Helen yn ein cynrychioli yn y gystadleuaeth Darllen 14 ac iau. Roedd yn ofynnol i Eirian y Cadeirydd gyflwyno'r tîm a'r nofel 'Pen Dafad' gan Bethan Gwanas sef y llyfr a benodwyd gan y beirniad ac yna i bob un ohonynt ddarllen detholiad ohono yn uchel i'r gynulleidfa. Clwb Pentrefoelas enillodd ar y noson a thîm Betws yn ail. Canlyniad ardderchog ar yr ymgais gyntaf.
Rebecca, Catrin a Lliwen fu'n cystadlu yn yr adran 16 oed ac iau. Fel Cadeirydd roedd Catrin yn cyflwyno siaradwr o dîm Pentrefoelas i'r gynulleidfa, Rebecca oedd siaradwr tîm Betws a rhoddodd anerchiad grymus ar gynhesu byd eang.
Tasg Lliwen oedd codi pwynt o anerchiad siaradwr o dîm Pentrefoelas, gofyn cwestiwn iddi a chynnig pleidlais o ddiolch. Clwb Chwitffordd ddaeth yn gyntaf, Nantglyn yn ail a Betws yn Rhos yn drydydd. Daeth Rebecca yn ail fel siaradwraig.
Dadlau ar bwnc wedi ei osod gan y beirniad oedd her yr aelodau dan 21. Fel Cadeirydd bu i Elin gyflwyno Gareth, cynigydd o glwb Llansannan a Betsan y Gwrthwynebydd o glwb Nantglyn, bu iddi hefyd wahodd cwestiynau o'r llawr, crynhoi'r ddadl a chymryd y bleidlais.
Jess oedd cynigydd y tîm, a chyflwynodd ddadl argyhoeddedig a chryf. Iwan Williams o Nantglyn oedd yn cadeirio'r ddadl a Dyfan Jones o Uwchaled yn gwrthwynebu.
Anna oedd gwrthwynebydd ein tîm, Glesni o Glwb Nantglyn oedd yn cadeirio'r ddadl ar godi oed ymddeol gyda Mari o Uwchaled yn gynigydd.
Eirian Jones o Ysgol Maes Garmon oedd beirniad cystadleuaeth Dadl yr Adran Ganol ac ar ddiwedd y noson dyfarnodd 106 o bwyntiau i glwb Betws yn Rhos, 103.5 i glwb Chwitffordd a chydradd drydydd gyda 92 i Nantglyn a Llansannan.
Bydd yr unigolion gyda'r marciau uchaf yn mynd ymlaen i gynrychioli Clwyd yng nghystadleuaeth Cymru yng Nghrymych ddechrau Mawrth. Daniel Davies o Chwitffordd ddaeth i'r brig fel Cadeirydd gydag Elin Davies o Lansannan yn enw wrth gefn, Jess Enston oedd y cynigydd cryfaf gyda Gari Evans o Nantglyn wrth gefn ac Anna Jones blesiodd y beirniad fel gwrthwynebydd gydag Elain Evans o Bentrefoelas wrth gefn.
Gan mai clwb ifanc sydd gennym ym Metws doedd neb yn cystadlu yn y Seiat Holi dan 26ain, Emyr Williams, Elliw Owen, Eirian Ellis a Nia Hughes o glwb Uwchaled enillodd gydag Elin Davies, Gethin Williams, Gareth Jones ac Wyn Jones o Lansannan yn dod i'r ail safle. Gwilym Evans, Iwan Hughes a Guto Jones oedd beirniaid y cystadlaethau eraill.
Wedi cyfuno marciau'r oedrannau i gyd Clwb Llansannan oedd ar y brig, Betws yn Rhos yn ail ac Uwchaled yn drydydd.
Elin Hughes, disgybl yn Ysgol y Creuddyn (uchod)
Fel Cadeirydd cyflwynodd y gosodiad 'cred y tŷ hwn fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar gael addysg brifysgol'.
A hithau yn paratoi am yrfa prifysgol ym mis Medi dywedodd pa mor amserol oedd y pwnc. Wrth grynhoi eglurodd ein bod wedi clywed pa mor bwysig yw gradd wrth geisio am swyddi academaidd ond ar y llaw arall fod prinder crefftwyr a lle i bobl ifanc ddilyn gyrfaoedd ymarferol.