Ar ddydd Sadwrn yng nghanol Mis Mai, cefais ganiad ar y ffôn gan Gwenan Jones o Sir Fôn. Roedd hi yn Aberhonddu ac awydd galw i'n gweld. Cyrhaeddodd y tŷ mewn deg munud, a'r cyntaf ddaeth allan o'r modur oedd Rhiannon Davies, Llwyn Onn, a'r nesaf oedd Mair Williams o'r Clwt, ac yna Gwenan. Buont yma am hanner awr a dyma'r hanner awr mwyaf difyr rydym wedi ei gael ers talwm. Diolch am alw. Ond yn ystod y sgwrsio gofynnodd Rhiannon oedd gennyf atgofion o'r Home Guard. Dyma sy'n dod nesaf.
Rwy'n meddwl mai tua dechrau 1940 y bu i tua hanner cant neu fwy gyrraedd y sgwâr yn y Llan, a rhyw Gapten Jones o gylch Llanelwy yn rhoi sgwrs i ni. Dim gynnau, ond martsio, a gweiddi "Left, right, left right ac About Turn". Cafodd fy nhad a Will Owen, Siop Sinc a Robert Owen y Gweinidog eu gwneud yn Sarjants. Cyn bo hir roeddem yn cario gwn dau faril, gynnau ein hunain, ac yn mynd i gardio ym Mhlas Pren - Gwylfa Hiraethog, ac yng nghriw y Parch. Robert Owen oeddwn i.
Nid oedd yr olygfa o Blas Pren yn ddifyr iawn. Byddem yn gweld y fflachiadau bomio yn Lerpwl a weithiau rhai yn disgyn yn nes i Lansannan. Cofiaf un awyren yn cael ei saethu i lawr ger Nantglyn. Ond byddem hefyd yn cael dipyn o hwyl. Roedd na foi o Lerpwl wedi dod i'r llan i weld ei blant oedd yn 'faciwis yma a gofynnodd gai o aros efo ni yn Plas Pren. Gwirfoddolodd un noson i wneud awr neu ddwy tu allan. Ar ôl awr daeth i'r tŷ a gweiddi "There are Germans outside" a dwedodd ei fod yn clywed nhw yn siarad. Pan aethom allan a gwrando, roedd y boi yn clywed y grugieir!
Roedd na gyngherddau yn bod weithiau i ddathlu'r 'Croeso Adref, 'Welcome Home Fund'. Cafwyd hwyl un noson yn Festri Capel Coffa Henry Rees pan fu i Will Siop Sinc wneud sgets, a dod a hen fotor beic ar y llwyfan. Ceisio cychwyn y motor beic a dim yn digwydd. Dyma un o'r criw yn gofyn oes na betrol ynddo? Will Owen yn tynnu cap oddiar y tanc a golau matsien, a bu aflwydd o bang a dychryn pawb. Chafodd neb ei frifo, doedd dim petrol yn y tanc ond roedd na arogl petrol yno a dyna achosodd y ffrwydriad. Roedd pawb yn chwerthin ac yn meddwl fod y cyfan wedi ei blanio.
Rwyf yn meddwl mod i wedi adrodd yr hanes o Home Guard y Bryn yn ceisio cyrraedd y llan dro yn ôl. Ond roedd na barti cyngherddau ganddynt yn y Llan hefyd a byddem yn cael hwyl ymhobman. Nellie Vaughan Wynne oedd yn cyfeilio, a'r tro cyntaf i ni fynd allan oedd i ardal Bryn Eirias, uwchben Bae Colwyn. Buom yno sawl gwaith, ac yna i Glan Conwy ac Eglwysbach, a chafwyd hwyl iawn. Trefor Roberts, Gerdden, a Will Siop Sinc fyddai'n arwain a phawb yn hapus yn canu.
Pan ddeuai'r Nadolig byddai'r hogiau yn cael eu gwahodd i Lety'r Eos i ganu carolau i Dr. Emyr Wyn Jones a'r teulu. Yno bu i mi gyfarfod ag Alun Llewelyn Williams, brawd i Mrs. Jones. Ar ôl symud i Aberhonddu bu ei lyfr Crwydro Brycheiniog yn gymorth mawr i mi i ddod i adnabod yr ardal.
I orffen, Plas Pren oedd yr hwyl. Ambell i un yn aros yn Bryn Trillyn am beint neu ddau, ac yn cerdded i fyny i Gwylfa Hiraethog. Roedd tafarnau yn cau hanner awr wedi naw pryd hynny, ond roedd yfed yn Bryn Trillyn tan hanner nos yn weddol aml. Er fod hi'n amser dwys a llawer yn cael eu lladd drwy'r byd, roedd yn rhaid trio gwenu. Mis Mawrth eleni ysgrifennais at y Prif Weinidog a dweud, "Ers pan dwi'n cofio, mae pob rhyfel wedi ei gychwyn gan wleidyddion, ond faint sydd wedi lladd yn Irac!" Nid wyf wedi cael ateb a dau fis wedi mynd! Hwyl i bawb ym mro'r Gadlas.