| Daeth aelodau'r eglwys, ynghyd a chapel Bethania a Chapel Coffa Henry Rees, Sefydliad y Merched a Merched y Wawr, a grwpiau lleol eraill, i addurno'r eglwys yn wych ar thema gerddorol ac a fu'n fodd i lenwi'r adeilad efo sain a sawr dros benwythnos Gŵyl y Banc. Roedd pob trefniant o flodau yn werth ei weld.
Bu pedwar cyngerdd gyda'r nos yn codi'r to ac yn ystod y dydd roedd cerddoriaeth byw yn treiddio trwy'r adeilad ac allan i'r awyr agored. Gwnaeth pawb ei ran a theimlwyd balchder gan bawb wrth i'r coffrau ddechrau llenwi gyda thros £4,000 yn cael ei godi dros y penwythnos.
Roedd ymdeimlad fod pawb wedi cyfrannau at gadw'r adeilad hynafol yma yn waddol i'r dyfodol.
Mae'r trefnyddion, Richard a Rosemary Smyth, Tŷ Bont Garreg, yn falch fod pethau wedi gweithio mor dda ac yn lawr eu clod i bawb fu'n cynorthwyo.
Dim ond cwta tair blynedd sydd ers iddynt ddod i fyw yma'n barhaol ond maent wedi bwrw i mewn i fywyd y llan a'r eglwys ac wedi dod i adnabod yr ardalwyr yn dda a bu hynny o gymorth mawr iddynt. Cawsom wasanaeth cerddorion proffesiynol o'r radd uchaf, diolch i Richard a fu'n rhedeg cyrsiau cerddorol i blant dros y 10 mlynedd diwethaf, a'r cysylltiadau a wnaeth. Bu'n ffodus i'w cael i roi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn organyddion, Côr Bro Aled, unawdwyr ac offerynwyr i'r Meseia;
Gawn ni ŵyl eto tybed? "Fedrwn ni ddim meddwl am y peth ar hyn o bryd" meddai Rosemary a oruchwyliodd yr holl flodau a'r lluniaeth, "ond pwy a ŵyr sut y teimlwn ni ar ôl seibiant iawn!" Mae croeso i ymwelwyr ymuno a'r gwasanaethau am 11 o'r gloch bob bore Sul, gyda choffi i ddilyn a chyfle i gael sgwrs.
 |