Sul Tachwedd 2 2003
Diwrnod cychwyn wedi dod o'r diwedd wedi llawer o ddymuniadau da fel petawn yn cael tocyn un ffordd. Hedfan o Fanceinion am 4 o'r gloch a chyrraedd Llundain o fewn awr. Teimladau cymysg - yn falch o gael cychwyn ar ôl wythnosau o baratoi a chael cysylltiadau trwy ddeunydd y we ond sylweddoli na welwn fy nheulu a'm ffrindiau am amser hir. Wedi gadael y fferm yng ngofal hogiau hanner fy oed! Llun Tachwedd 3
Taith oddeutu 14 awr i Singapore a chael dwy awr yn y maes awyr. Yn falch o gael traed ar y ddaear am ychydig ond cael braw wrth fynd allan o'r stafell 'air-condition' i'r awyr agored lle'r oedd y gwres yn llethol ond heb sylweddoli ein bod ar y cyhydedd - beth oedd i ddisgwyl?!
Mawrth Tachwedd 4
Gan ein bod yn teithio i'r dwyrain, roedd y patrwm dydd a nos a cheisio cysgu ar yr awyren yn anodd dygymod â hi - cael dau ddiwrnod o tua 15 awr yn lle 24. Cyrraedd maes awyr Melbourne sef ail ddinas Awstralia am tua 6 y bore. Casglu'r bagiau a mynd drwy'r customs.
Roeddent eisiau llawer mwy o wybodaeth wrth gyrraedd Awstralia i gymharu â glanio yn Ewrop neu Brydain. Rhaid oedd gofalu nad oedd dim byd yn dod i mewn i'r wlad ac am fy mod wedi bod ar fferm yn y mis diwethaf, roedd ychwaneg o gwestiynau a gofal yn cael ei gymeryd. Roedd rhaid chwistrellu unrhyw ddillad neu sgidia oedd wedi bod mewn cysylltiad â fferm o fewn y mis diwethaf, hynny yw, os oeddech yn onest.
Cerdded o'r maes awyr i nôl car oedd wedi ei heirio cyn cychwyn o Gymru. Doeddwn erioed wedi gyrru car awtomatig o'r blaen. Cychwyn o'r maes awyr a gwneud fy ffordd am faes rasio ceffylau Francton lle'r oedd y Melbourne Cup yn cael ei chynnal. Mae hwn yn ddigwyddiad tebyg i Ascot yn Lloegr, lle'r oedd yn ddiwrnod pwysig ar y calendr pan fo talaith Victoria fel Gwyl y Banc. Er bod gan Marion y ferch geffyl, ychydig o ddiddordeb sydd gennyf mewn rasio ceffylau ond rhaid oedd ymweld i ddweud fy mod wedi bod yno. Treuliais y diwrnod yno o 9 y bore hyd 6 yr hwyr, gan fod yn un o'r rhai mwyaf sobor o'r 120,000 o bobl. Fel y Melbourne Cup, roedd ambell i ddoler wedi diflannu i rywle!
Mercher Tachwedd 5
Ar ôl cychwyn gwych fel hyn, roedd rhaid mynd i edrych am fferm neu ddwy. Roedd y fferm yn godro ychydig dro 400 o wartheg Holstein mewn rotari yn cymeryd 50 buwch ar y tro. Gwelwyd trelar magu lloi i fynd to 61 i'r beic gyda lle i 60 llo sugno o'i amgylch, gwneid hyn y gwaith o fagu lloi yn syml a hwylus. Roedd gan y fferm yma, fel llawer arall, sustem 'flood wash' fel ei gelwir lle'r oedd dŵr wedi ei ail-gylchu yn cael ei arllwys i lanhau concrit yn lle defnyddio tractor a scraper.
Iau Tachwedd 6
Ar ôl aros mewn Motel yn Leongatha, sef i'r dwyrain o Melbourne, gyrru am tua awr i fferm teulu Zudaman. Roedd y teulu wedi ymfudo o'r Iseldiroedd yn 1985 gyda thri mab ifanc yr amser hynny. Roedd yma fuches o 620 i gadw y 4 dyn yn brysur. Yn Awstralia, roedd amryw gwmni yn prynu llaeth. Gwerthir o'r fferm yma i Pauls/Parmalait lle roddent yn cynnal diwrnod agored i'r aelodau yn lleol er mwyn trafod hynt a helynt y diwydiant. Roedd tua 15 cynhyrchwr yno a 2 gynrychiolydd yn egluro a thrafod gofynion y cwmni am y flwyddyn nesaf. Synnais mor agored oedd y ffermwyr wrth ddatgelu ffigyrau na fuasai yn mynd dim pellach na'r bwrdd brecwast yma yng Nghymru.
Gwener Tachwedd 7
Mynd i weld fferm Con de Bont erbyn cinio - 12,000 erw yn godro 540. Yn dilyn sychder mawr 2002/3 roedd niferoedd gwartheg wedi gostwng ymhob man oherwydd diffyg bwyd. Bu i'r ffermwr yma werthu llawer o'i stoc ifanc dramor i China lle'r oedd galw am wartheg godro i'r dyfodol. Newydd ddechrau gwerthu ei laeth ers 6 mis oedd Pauls/Parmalait gan symud o gwmni Murray Goldbourn. Arbedai hyn oddeutu 2.7 cent neu 1 geiniog y litr o gost cludiant.
Sadwrn Tachwedd 8
Cychwyn toc ar ôl 7 y bore i gyfarfod Laurie Fitzgerald erbyn 9 yn nhref Duoing. Cael diwrnod prysur a diddorol yn ymweld â phedair fferm gyda Swyddog Maes i wneud cynllun Gofal Fferm. Os rhywbeth roedd y gofynion yma yn Awstralia yn fwy caeth a thrylwyr na gennym ni ym Mhrydain. Roedd yn gofalu am 180 o gynhyrchwyr gyda chyfanswm llaeth o 260,000,000 litr neu gyfartaledd o ychydig o dan 1.5 miliwn litr y fferm. Fy wythnos gyntaf yn Awstralia - difyr iawn hyd yma.