Casglu arian at Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Clwyd 2006 oedd y nod, a'r gweithgaredd wedi'i drefnu gan y Pwyllgor Cerdd Dant yng nghartre' cadeirydd Leah Owen. Gyda dim ond chwe aelod ar y pwyllgor, tasg go fawr oedd cael popeth yn barod mewn pryd. Bu'r teulu wrthi'n ddiwyd yn ystod yr wythnos yn glanhau'r garej, torri gwair, codi chwyn a phlannu blodau (a siarad efo nhw i'w hannog i ddangos eu lliwiau!) Roedd cymdogion caredig wedi cyfrannu byrddau a chadeiriau, tra bu cyfeillion yn gwneud cacennau a chynnyrch i'r stondin werthu. Y prysuraf oedd y Parchedig Wayne Roberts a ddaeth ag 80 o sgons, hufen, mefus a thri phot o jam! Dau gyfraniad arbennig oedd rhai Bryn Roberts o Ddinbych yn gwneud a gosod basged flodau fel prif wobr y raffl, a Dewi Owen o Beniel yn cerfio powlen dderw ar gyfer ocsiwn. Gwenan Roberts, Rossa Bach, enillodd y fasged flodau, tra bu Gwenfyl Jones mor hael a phrynu'r fowlen. Am fod torf fawr wedi cyrraedd i gefnogi, bu merched y pwyllgor yn brysur yn hulio'r te a'r teisennau a chwmni arbennig o Ddinbych yn golchi'r llestri (Wendy Jones!). Gyda'r brodyr Ynyr a Rhys yn croesawu pawb ar ddwy gitâr, a chyfle i blant roi Swadan i'r Ll'godan am wobr fach, bu'n brynhawn hwyliog dros ben. Hoffai'r Pwyllgor Cerdd Dant ddiolch i bawb am bob cymorth a chefnogaeth wrth iddyn nhw wneud elw o dros £500. Taith gerdded fydd eu gweithgaredd nesa', a bydd y manylion ar gael gan Leah.
 |