Fe'i agorwyd am y tro cyntaf yn 1934 gan neb llai na David Lloyd George. Ar y diwrnod yma daeth 3000 o bobl i Langernyw i weld yr agoriad. Un a oedd yn bresennol yn yr agoriad oedd Mr John Hughes - yn y Cwm y ganwyd Mr Hughes.
Os cewch gyfle, mae'n werth clywed hanesion Mr Hughes am yr amgueddfa a hefyd lu o hanesion y pentref!
Yn 1997 adferwyd yr amgueddfa gydag arian oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chadwyn Leader 2.
Yn 1998 gwnaed gwaith cadwraeth ar nifer o wrthrychau'r Amgueddfa a pharatowyd arddangosfeydd newydd. Gwnaed y gwaith hwn gyda grantiau o'r gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a'r Cyngor Amgueddfa yng Nghymru. Bellach mae ymddiriedolwyr yr amgueddfa newydd fy mhenodi i yn Swyddog Datblygu'r amgueddfa. Her newydd i mi!
Rwyf yn marchnata'r Cwm a cheisio cael mwy o bobl i mewn drwy'r drysau i weld yr amgueddfa arbennig hon, a hefyd i bobl ail ymweld a'r amgueddfa droeon.
Mae'r amgueddfa yn agos at fy nghalon i a fy nheulu, fel un a fagwyd yn Llangernyw a hefyd yn un o gast y sioe gerdd 'Harri'r Cwm'.
Mae wedi fy synnu cymaint o bobl y fro sydd heb ymweld a'r amgueddfa - felly dewch da chi!
Yn yr amgueddfa mae cyfle i chi weld hanes Syr Henry Jones ar ei daith o fainc y crydd i gadair athronydd Foesol. Cafodd ei urddo yn 1912 ac yn 1922 cafodd yr anrhydedd prin o gael 'Cydymaith Anrhydedd'. Cafodd yr anrhydedd yma oherwydd ei ymdrechion a'i aberth dros addysg.
Yn yr amgueddfa mae hen weithdy'r crydd a'r gegin a'r llofft bitw lle arferai Henry a'i deulu fyw a gweithio i'w gweld, yn ogystal â hanesion y pentref yn yr Oes Fictorianaidd. Gyda chymorth gwirfoddolwyr Clwb Garddio Llangernyw a Dad - Glyn Tan y Gorwel, mae'r gerddi yn debyg i erddi'r cyfnod. Mae pawb yn dotio gyda'r holl lysiau sy'n tyfu yn yr ardd a'r arogl lafant wrth gerdded i fyny'r llwybr at y tŷ.
Rydym yn trefnu arddangosfeydd gan wahanol artistiaid. Mis Mehefin a Gorffennaf cafwyd arddangosiad Helen Flook o ddyluniau gwreiddiol o Iyfrau poblogaidd Terry Deary. Bu Helen wrth ei gwaith yn yr amgueddfa.
Mis yma, hyd at Fedi 30ain, mae gennym arddangosfa 'Y Gerddi Coll' - hanes Clarence Hamilton Creasey.
Hefyd, rydym yn cynnig pecyn i'r ysgolion, mynd a'r plant yn ôl i amser Oes Fictoria trwy ffyrdd drama. Daeth Ysgol Dewi Sant y Rhyl yma fis Mehefin ac roedd eu hymateb yn ardderchog.
Mae siop fach yn gwerthu llyfrau, pensiliau, cardiau, beiro, lluniau a chardiau gan Pierino Algieri yn ogystal a llyfrau Gwasg Carreg Gwalch.
Mae croeso i unigolion, teuluoedd, mudiadau/grwpiau ac ysgolion ymweld a'r amgueddfa. Er bydd yr amgueddfa ar gau Medi 30 - Mai 1af, mae'n bosibl gwneud trefniadau ymlaen llaw i ddod i ymweld a'r amgueddfa trwy gydol y flwyddyn.
Mae digon i'w weld a'i ddysgu yn yr amgueddfa arbennig yma. Ymholiadau a threfniadau ymlaen llaw - 01745860630. Oriau agor: Mawrth - Gwener 10.30 - 1.00 a 2.00 - 5.00. Sadwrn a Sul 2.00 - 5.00