| Eleni ein cyrchfan oedd Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, sydd wedi ei lleoli yn ei hen gartref yng Nghae'r Gors, Rhosgadfan. Fe'n croesawyd yno gan Dewi
Tomos, un o sylfaenwyr y Ganolfan ac un sydd hefyd yn gwirfoddoli yno.
Yn dilyn
paned a bara brith cafwyd tipyn o hanes sefydlu'r Ganolfan a hanes bywyd y Dr.
Kate Roberts gan Dewi Tomos.
Wedyn cawsom ein tywys o gwmpas y tŷ, yr ardd a'r beudy pan gafwyd cyfle i wir sylweddoli a gwerthfawrogi caledi bywydau chwarelwyr a thyddynwyr diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r
ugeinfed ganrif.
Yn ddiamau y caledi hwn fagodd y rhuddin a gwydnwch cymeriad sydd i'w weld yng nghymeriadau nofelau a straeon byrion Brenhines ein Llen.
Yn y
beudy roedd arddangosfa o greiriau amaethyddol a chwarelyddol y cyfnod.
Tra roedd y ffermwyr yn ein plith yn hen gyfarwydd a'r bladur a'r gribin, roedd yr offer
chwarelyddol yn dipyn mwy dieithr i nil
Tra yng Nghae'r Gors cafodd rhai ohonom
fonws ychwanegol o glywed y gog yn canu, digwyddiad eitha anghyffredin y dyddiau
hyn.
Talwyd gair o ddiolch i Dewi Tomos am y croeso, am gyflwyno'r hanes, y daith
o gwmpas y Ganolfan, a'i rodd o'i Iyfr diweddaraf am y Dr. Kate Roberts a'r bara
brith ar gyfer y raffl gan Rhian.
Enillwyr y gwobrau raffl oedd Bronwen Williams a
Merfyn James.
Cyn troi am adref mwynhawyd pryd o fwyd blasus a chyfle i
gymdeithasu a'n gilydd ym Mwyty'r Meifod yn Bontnewydd.
 |