Diffyg sgandals yn Betws 'ma y mis hwn! Yn fy mhyjamas ar y soffa yn ymlacio un bore Sul - neu Ddydd Sul Marathon Llundain yn benodol - y daeth y syniad i mi.
Dwi'n ama fod y ffaith fy mod i'n glafoerio ar rôl bacwn ac ŵy, a'r cyfuniad o byjamas wedi rhoi pwl o euogrwydd/wallgofrwydd i mi. Ta waeth, fe gynigiais i wrth Geraint y buase hi'n braf i ni osod rhyw her i ni'n hunain hefyd. A na, tydw i ddim am yrru nghais i mewn i gael rhedeg marathon Llundain y flwyddyn nesa! Fasa hynny fymryn yn uchelgeisiol a minna ar y funud yn gallu gwneud lawr mwy na rhedeg bath i mi fy hun!
Ta waeth - y syniad. Beicio i lawr i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni. Rydw i wrth fy modd yn cael mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn, ac yr oedd Geraint a fi eisoes wedi crybwyll mynd i feicio am ddiwrnod neu ddau, felly pam ddim cyfuno'r ddau? Wel, dyna fynd ar y we yn syth i geisio canfod mwy. Ac yn fuan iawn, fe ddaethon ni ar draws sialens 'Herio'r ddraig', set beicio o Gaergybi i Gaerdydd ar hyd Lôn Las Cymru. A dyna hi - dyna benderfynu y buasen ni'n ceisio 'herio'r ddraig' ar ein ffordd i'r Eisteddfod eleni. Fel tase dechrau beicio o Fetws ddim yn ddigon pell!
'Y mwnci gwirion!' oedd geiriau Dad pan glywodd o am fy nghynlluniau i. Ac mi fetia i y bydd na debygrwydd rhyngdda i a babŵn wedi i mi eistedd yn y cyfrwy am ddyddiau! Ond, hyd yma, rydw i'n benderfynol o gyflawni'r her. Dwi wedi prynu'r mapiau rŵan, felly does dim troi'n ôl! Ac wrth bori trwy lyfr un gwr sydd wedi herio'r ddraig yn llwyddiannus, rydw i'n edrych ymlaen yn fawr i gael brwydro â hi a gweld y golygfeydd o Gymru ar y daith. (Os yn pryderu rhyw fymryn o'i weld yn ei leicra ac yn edrych yn yltra-ffit!)
Ta waeth, dyna'r penderfyniad wedi'i wneud. Dwi'n siŵr mai fi fydd yr un i gymryd yr amser hiraf i gyrraedd Maes yr Eisteddfod eleni. (Na, tydw i'n sicr ddim digon gwirion i geisio beicio yno mewn diwrnod, er mod i wedi darllen fod
hynny'n bosib fasa'r wisg leicra ora ddim yn galluogi 'nghoesa i i bedlo dros 250 milltir heb stop!)
Dyma fynd ati i gynllunio'r daith:
Dydd Sul - Dechrau ar y daith. Beicio o Gaergybi i Borthmadog (67 milltir)
Dydd Llun - Porthmadog i Fachynlleth (44 milltir)
Dydd Mawrth - Machynlleth i Lanfair-ym-Muallt (56 milltir)
Dydd Mercher - Llanfair-ym-Muallt i Frycheiniog (32 milltir)
Dydd lau - Brycheiniog i Gaerdydd. Cyrraedd Caerdydd!
Dydd Gwener - Yn yr Eisteddfod, yn cerdded o amgylch y maes efo gwên fawr a choesau cam! (Gobeithio!)
Dim ond gobeithio na fydd hi'n wythnos lawog (er, mae'n debyg fod hynny'n gofyn tipyn a hithau'n wythnos yr Eisteddfod!). Rydw i'n edrych ymlaen i gael gweld tipyn ar y golygfeydd. Dim ond gobeithio y bydda i'n gallu eu gwerthfawrogi a minnau ar gefn fy meic!
Fel y rhedwyr oedd yn powndio'u ffordd o amgylch Llundain y bore Sul hwnnw, rydw inna'n awyddus i geisio casglu rhyw geiniog neu ddwy at elusen (a na, tydw i ddim am wisgo mewn siwt mwnci ar fy nhaith!) Ond, peidiwch a synnu os y bydda i'n sefyll efo 'nghap/helmed feicio yn gofyn i chi fy noddi fi cyn yr haf! Roedd clywed rhedwyr Marathon Llundain yn siarad ar y teledu y bore hwnnw, ac yn nodi eu rhesymau dros gefnogi elusennau penodol yn ddigon i ddod â deigryn i'r llygad. Roedd gen i edmygedd mawr at bob un ohonynt.
Tra bydda innau ar fy nhaith, fe fydd yna lawer ar eu teithiau personol hwy. Yn brwydro yn erbyn salwch, yn ymdopi â cholled neu yn helpu eraill mewn angen. Fel pob taith, fe fydd yna elltydd serth yma ac acw.
Mwynhewch bob taith, ac ewch amdani i osod yr her nesaf i chi eich hun. Os na wnawn ni'r ymdrech i ddringo i gopa'r mynyddoedd sydd o'n blaenau, chawn ni fyth y profiad o deimlo'r gwynt trwy'n gwalltiau ar y ffordd i lawr.
Dim ond gobeithio y galla i fod yr un mor bositif wrth ddringo am filltiroedd i gopa uchaf Rhiw Fawr ger Machynlleth! Does gen i ddim amheuaeth na fydda i'n bytheirio'r penderfyniad wnes i ar y soffa yn fy mhyjamas y bore Sul hwnnw. Ond, dwi'n saff, os cyrhaedda i'r Eisteddfod (cyn diwedd yr wythnos!) y bydd 'na fwnci hapus o amgylch Maes yr Eisteddfod eleni!