| Ar Fedi'r 1af, 2007 cychwynnodd y pump yn y llun ar eu taith - dim o 'Lands End i John O'Groats' ond o 'Langernyw i John O'Groats' - ac yn ôl!Siwrne hirach a mwy anturus, tua 1500 0 filltiroedd mewn 10 diwrnod. Roeddent yn hollol hunan gynhaliol, yn cysgu mewn pebyll o dan y sêr. Er mwyn gwneud y sialens yn galetach, penderfynwyd peidio mynd ar feiciau modur mawr fel Harley Davidson ond ar yr hen Honda C90 step-throughs - y beic oedd yn ffefryn ar gyfer dosbarthu'r pizza. Cynhyrchwyd dros 20 miliwn ohonynt dros gyfnod o 30 blwyddyn a chafodd ei gofnodi yn y llyfr cofrestru fel y cerbyd a wnaethpwyd y mwyaf ohonynt erioed. Pwrpas y daith oedd codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, sydd yn rhoi gwasanaeth hanfodol mewn argyfwng brys. Mae'r elusen gofrestredig yma yn ddibynnol ar roddion er mwyn parhau ei gwaith da, ac mae pob galwad yn costio tua £1,000. Geoffrey Williams, Bleddyn Jackson, Emyr Evans, Dylan Owen a Medwyn Evans oedd y pump.
 |