| Dyma Ophelia Harborne, Cefn y Maes, ac Elen Morris, Bryn llwyd, Nantglyn gyda criw o ffermwyr Calon Wen wrth iddynt gymeryd rhan mewn ras laeth i gopa'r Wyddfa ar ran cymorth cancr MacMillan. Ar fore braf y 10fed o Fedi rhedodd y criw i gwrdd a Eleri Brady, rheolwr codi arian Macmillan yn y Gogledd i gopa'r Wyddfa. Y nod oedd pasio potel o laeth i'r copa er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglyn a Macmillan a hefyd anogi pobl i gymeryd rhan a chefnogi bore coffi mwya'r byd, a oedd yn cael ei gynnal ar y 25ain o Fedi ar
draws Prydain, gan gynnwys Hafod
Eryri. Mae'r criw yn derbyn rhoddion ar gyfer Macmillan 'ac maent yn fawr obeithio cael lle yn Marathon Llundain yn 2010.
 |