Mewn canlyniad i gais gan Gyngor Plwy Betws yn Rhos, cytunodd Cyngor Dosbarth Aled mai'r enw swyddogol ar stad o dai cyngor yn y pentref fyddai Glan y Fedw. Mewn cyfarfod o Ynadon Is Dulais caniatawyd i dafarn Lion Inn Gwytherin gael estyniad o dair awr yn ei horiau yfed ar brynhawn dydd arwerthiant hyrddod a defaid a oedd i'w chynnal ar Hydref 3ydd. Ar yr 8fed o'r mis trosglwyddodd teledu BBC y rhaglen gyntaf o 'Blue Peter'. Yn y Savoy Cinema, Bae Colwyn, dangoswyd 'Farewell to Arms' gyda Rock Hudson a Jenifer Jones. Mewn cyfarfod o Glwb Amaethwyr Ifanc Pandy Tudur, dewiswyd y swyddogion canlynol - Llywydd: Owen Williams; Arweinydd: Meirion Williams; Cadeirydd: Penri Williams; Is-gadeirydd: Menai Owen; Trysorydd: Elizabeth Jones; Ysgrifennydd: Morfydd Williams ac Elizabeth Jones. Ar Dachwedd 13eg, cafwyd sgwrs ddiddorol yn yr Aelwyd, Betws yn Rhos, gan Mr Tomos Clarke Williams yn adrodd ei hanes yn teithio'r cyfandir. I gloi'r noson fe ganodd Mr Williams anthem genedlaethol Sbaen. Ar safle adeiladu ar gyrion Abergele gwelwyd arwydd 'Superb quality new bungalows for sale, from £2250', ond ar safle arall ger Cyffordd Llandudno roedd yn amlwg bod gwell bargen i'w chael, yma roedd tai unllawr gyda dwy lofft ar werth am £1850. Mewn cylchgrawn amaethyddol ar yr ugeinfed o Dachwedd roedd hysbyseb gan gwmni 'Whitmore of Staffordshire' yn gwerthu glo am saith bunt y dunnell, ar amod bod y prynwr yn prynu deg tunnell. Oddeutu'r un amser gwelwyd hysbyseb yn y 'Weekly News' gan fodurdy M & K, Hen Golwyn, am 'Riley de luxe saloon', pris ar y ffordd £863-17-0. Ar ddechrau Rhagfyr y record uchaf yn y 'top ten' oedd 'It's only make believe' gan Conway Twitty ac yn ail oedd 'Hoots Mon' gan Lord Rockingham's XI. Yn siop radio a theledu 'Slater and Wheeler' Abergele, bargen y tymor oedd teledu 17" am rent o 10 swllt yr wythnos.
 |