Gadael Fiji yn oriau cynnar bore Mai 7 a chyrraedd Honolulu ar ynys Oa'hu yn Hawai'i, ar fore Mai 6!!! Sut mae hynny'n gweithio? Dwi ddim yn siwr iawn, ond cawsom y cyfle unigryw o fyw Mai 6 ddwywaith! Cael ein synnu at garedigrwydd pobl y ddinas, a phenderfynu aros yn ardal glan môr Waikiki. Fe dreuliom wythnos yn Hawai'i, yn ymlacio gan mwyaf. Fe aethom ar fws yr holl ffordd o amgylch yr ynys a gweld nifer o draethau, ac ardal fynyddig coedwigaidd diddorol - dyma lle ffilmiwyd 'Jurassic Park' a'r gyfres 'Lost'.
Fe grwydrom y ddinas ac ardal 'Chinatown' yn ogystal ag ymweld â'r amgueddfa a'r 'Iolani Palace'. Bu i ni hefyd ddal bws i ardal 'Pearl Harbour', gan grwydro'r amgueddfa a mynd ar gwch i'r 'USS Arizona Memorial' uwchben llong a foddwyd ym 1941 gan ymosodiad Siapan.
Bu i ni hedfan i Los Angeles ar y tir mawr wedyn, ac aros yn ardal 'Hollywood', gan weld yr holl theatrau enwog, a'r 'Walk of Fame', a cherdded i fyny bryn at balas Siapaneaidd a chael golygfeydd o'r
arwydd enwog 'Hollywood'.
Fe aethom lawr i ardal 'Downtown' y ddinas enfawr, ac o gwmpas yr adeiladau enwog sydd mewn nifer o ffilmiau, eglwys gadeiriol anferth a modern, ac I amgueddfeydd celf enwog.
Fe gerddom hefyd iardal 'WeHo' a 'Beverly Hills' gyda'u 'Sunset Strip' enwog, 'Rodeo Drive' lle mae'r cyfoethog yn siopa, ac i weld y 'La Brea Tar Pits'.
Aethom hefyd i ardal glan môr 'Santa Monica', a cherdded i'r enwog 'Venice Beach' - mae popeth yn LA yn enwog!
Un diwrnod fe aethom i 'Universal Studios Hollywood', sef un o stiwdios ffilmio mwyaf y byd sydd hefyd yn barc antur, a chael y cyfle i weld setiau gwahanol ffilmiau a chyfresi teledu.
O LA, fe aethom ar fws enwog y 'Greyhound' i Las Vegas trwy ddiffeithwch a llawer o ddim byd!
Roedd Las Vegas yn le anhygoel, fel parc antur i oedolion sydd byth yn cysgu! Bu i ni grwydro'r 'Strip' gyda'r casinos enfawr cyfoethog a gweld y capeli bach tacky mae nifer o bobl enwog wedi priodi ynddynt!
Fe aethom ar drip diwrnod i'r 'Grand Canyon' gan adael am 5.30am, a chyrraedd yn ôl tua 10pm! Ar y ffordd cawsom weld yr enfawr 'Hoover Dam', ac wedi cyrraedd y 'South Rim' aethom I ddau bwynt golygfaol gwych i weld mawredd anhygoel y 'Grand Canyon'
Oddi yno, bu i ni deithio i San Francisco gan aros yn agos i'r 'Union Square'. Roedd rhannau hyfryd iawn i'r ddinas hon, ond yn anffodus roedd llawer gormod o bobl yn gorfod byw ar y strydoedd.
Bu i ni grwydro'r ddinas, a mynd i'r 'Civic Centre', yn ogystal â chrwydro ardaloedd 'Chinatown' a'r ardal Eidalaidd, 'North Beach'.
Aethom i fyny 'Telegram Hill' a chael golygfeydd o'r ddinas a'r 'Golden Gate Bridge', ac un diwrnod aethom ar gwch i ynys'Alcatraz' a arferai fod yn garchar.
Bu i ni hefyd drefnu trip i fynd i Barc Cenedlaethol 'Yosemite', gan stopio ychydig weithiau i gael golygfeydd o'r parc, ac yna cael amser i grwydro o gwmpas ar ben ein hunain, gan weld yr enwog 'Half Dome', 'El Capitan' a 'Bridalveil Falls', ac ar y ffordd oddi yno, stoplo i gael golwg ar rai'n ceisio dringo craig 'El Capitan' sy'n cymryd tua 4 diwrnod fel arfer!