Sefydlwyd Antur Liwt ym mis Medi 2001 i gynnig hyfforddiant i blant a phobl ifanc mewn sgiliau perfformio. Bellach daw dros 160 o blant a phobl ifanc i Eirianfa yn Ninbych i gael gwersi wythnosol mewn drama, canu a dawnsio. Ers mis Awst mae disgyblion Antur Liwt wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a phrosiectau.
Yn ystod yr haf, yn dilyn cyfres o weithdai dawns gan y dawnsiwr proffesiynol, Cai Tomos, aeth grwp o ddisgyblion i gystadlu yng nghystadleuaeth y ddawns greadigol yn Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Roeddynt yn llwyddiannus a chawsant ail wobr yn gystadleuaeth. Yn ychwanegol, cafodd Non Hughes a Haf Morgan y drydedd wobr yng nghystadleuaeth y ddeialog.
Cynhaliwyd noson lwyddiannus ar gyfer Cymdeithas Llandyrnog yn y Neuadd Bentref, gyda disgyblion hyn Antur Liwt yn actio, llefaru, canu a dawnsio. Ym mis Hydref dewiswyd dwy o ddisgyblion Antur Liwt, sef Non a Megan i chwarae rhan Betty Parris yng nghynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o 'The Crucible' gan Arthur Miller. Trefnwyd trip i ddisgyblion Antur Liwt fynd i weld y cynhyrchiad, a chafwyd dau lond bws yn cefnogi. Cafodd y disgyblion hyn y cyfle wedyn i gymryd rhan mewn gweithdy arbenigol ar y cynhyrchiad gyda Mali Edwards.
Ym mis Tachwedd aeth nifer o ddisgyblion hyn Antur Liwt i Theatr Twm o'r Nant i weld cynhyrchiad o 'The Caretaker' gan Harold Pinter. Cawsant y cyfle wedyn i gymeryd rhan mewn gweithdy gyda chyfarwyddwr y ddrama Mike Stephens, o Gwmni Microcosmos.
Ym mis Tachwedd hefyd gwahoddwyd disgyblion blwyddyn 5 Antur Liwt i westy San Siôr yn Llandudno i berfformio darn wedi ei gomisiynu i Gynhadledd Cyngor Gwirfoddol Cymru. Cafwyd diwrnod llwyddiannus fawn, gyda'r plant ac aelodau'r Gynhadledd yn mwynhau'r perfformiad yn fawr. Yn ddiweddar bu nifer o ddisgyblion a thiwtoriaid Antur Liwt yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog yn mynychu cwrs Theatr Ieuenctid Cymru. Braf oedd cael dysgu sgiliau newydd a dod i adnabod pobl ifanc eraill a phobl broffesiynol o fyd y Theatr yng Nghymru.
Mae nifer o gynlluniau ar y gweill gan Antur Liwt ar gyfer 2004, gan gynnwys sioe gan ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yn Theatr Twm o'r Nant ar Chwefror 5ed o'r enw 'Cewri, Dewiniaid a Chorachod'. Ar Ebrill y 7fed a'r 8fed yn Theatr y Pafiliwn, Rhyl bydd y disgyblion Uwchradd yn perfformio y sioe gerdd 'Prima Donna' . Ym mis Mai bydd disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn perfformio i gymdeithasau y Stroke Club' a Chapel y Fron.
Mae Antur Liwt hefyd yn falch o gyhoeddi eu bod wedi derbyn grant gan 'Y Gronfa Risg Cymdeithasol' o dan adain Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Amcan 1 ar gyfer prosiect cyffrous i'r disgyblion hyn a fydd yn digwydd trwy gydo1 2004.
Croesewir aelodau newydd i Antur Liwt, o flwyddyn 3 ysgol gynradd i chweched dosbarth ysgol uwchradd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Swyddfa Antur Liwt, Canolfan Eirianfa, Safle'r Ffatri, Dinbych LL16 3TS. Rhif ffôn 01745 816661 neu ffôn symudol 07733 60995.