| Ar brynhawn lau, Gorffennaf 4ydd cynhaliwyd parti yn yr Hen Ysgol i ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu'r Ysgol Feithrin yn Llangernyw yn ôl ym 1972. Roedd nifer o'r plant a'r oedolion wedi gwisgo crysau T' arbennig a gafodd eu gwerthu ar gyfer yr achlysur gyda llun o wyneb hapus arno a wnaed gan blentyn gyda geiriau pwrpasol o'i gwmpas i nodi pen-blwydd y Cylch: 1972 - LLANGERNYW - 2002, 30 yn gwenu o hyd! Cafwyd gwledd o fwyd parti yn gyntaf yna sioe gonsurio gan Mr Jon Winkupp gydag ambell blentyn yn helpu ac yn cael balwn arbennig am wneud hynny. Yna cafwyd cacen wedi ei haddurno gan Ann O. Vaughan cyn tynnu rafflau a roddwyd gan yr aelodau a rhifau'r Clwb Cefnogwyr ar gyfer mis Gorffennaf. Talwyd y diolchiadau gan y Cadeirydd, Brenda Davies a chyflwynwyd cap yn anrheg i bob plentyn gyda'r un ysgrifen â' r crysau T' i bawb gofio'r achlysur arbennig hwn. Hefyd mae'n rhaid llongyfarch Cylch Meithrin Llangernyw wedi iddyn nhw ddod i'r brig mewn cystadleuaeth gan Fudiad Ysgolion Meithrin Sir Conwy. Cystadleuaeth oedd hon i ddewis enw ar gyfer eu cylchgrawn newydd. Cafwyd 13 o gynigion i gyd a Chylch Llangernyw ddaeth i'r brig gyda'r enw 'Cylch Ni Cylch Chi'.
 |