| Yn ôl Cyfrifiad 1901 roedd poblogaeth Betws a'r Plwyf yn 459 gyda 105 o gartrefi a phreswylwyr ynddynt a thri tŷ gwag. O'r cartrefi hyn roedd 40 ohonynt gyda mwy na phum person yn byw ynddynt. Erbyn Cyfrifiad 2001 gwelsom fod nifer trigolion y plwyf wedi aros yr un fath ond bod nifer y tai wedi codi'n sylweddol ac erbyn heddiw mae oddeutu 220 o dai yma. Yn 1901 roedd 41 o dai yn y llan a hynny yn cynnwys pentrefannau Bron Llan a Bryn Groes ond heddiw mae 130 o anheddau yma. Ni chafwyd gwybodaeth swyddogol o Gyfrifiad 2001 ynglyn â rhif y preswylwyr sydd yn byw ym mhob tŷ ond amcangyfrifir bod oddeutu 8 tŷ gyda mwy na phum person yn byw ynddynt sydd yn wahanol iawn i Gyfrifiad 1901. Ar ddechrau' r ugeinfed ganrif nid oedd yr un tŷ wedi derbyn trydan ac yn debygol iawn nid oedd dŵr ar gael oddi mewn i'r tai ar wahan i'r Ficerdy a phlasdy'r Ffarm sydd heddiw'n westy. Bu newid mawr ynansawdd y tai oherwydd yn 1901 roedd 8 tŷ â tho gwellt arnynt a chofnodwyd bod 35 o anheddau'r plwyf yn cyflogi morwynion. Ni chofnodir nifer y gweision a gyflogwyd ond mae'n bur amlwg fod nifer y gweision ar ffermydd y fro yn llawer mwy na rhif y morwynion. Gwelwyd newidiadau amlwg mewn ymarferion crefyddol. Yn 1901 roedd tri Chapel ac un Eglwys yn y pentref a Chapel y Bedyddwyr yn y Codau ger y Gell ym mhen gorllewinol y plwyf. Mae'r achos yn y Codau wedi cau ers blynyddoedd belIach a chaewyd y drws yn Seion, Capel yr Annibynwyr, oedd ar ffin y pentref ger Bryn Groes. Adroddai un o'r cyn frodorion, sef John Jones, Tŷ Brith (hen fwthyn ger Brynffanigl Uchaf) a fu fyw yn 102 oed, fod mynychwyr yr addoldai yn dod allan ar nos Sul yn eu cannoedd. Cychwynnwyd achos Methodistiaid cyntaf yr ardal mewn lIe o'r enw Pistyll Gwyn - nepelI filItir i'r dwyrain o'r pentref. Yn ôl yr hanes clywodd John a Mair Jones, Pistyll Gwyn, fod Edward Parry, Tanyfron a Thomas Lloyd, Cyffylliog yn pregethu yn yr ardal ond nid oes gwybodaeth bendant a fuont yn pregethu yn eu cartref. Bu newidiadau eang mewn addysg yn y pentref ac er na fu gostyngiad sylweddol yn nifer plant yr ysgol, mae'r mwyafrif ohonynt yn cael eu cludo yn ôl ac ymlaen i'r lIan a daw rhai ohonynt o Abergele, Moelfre a Throfarth. Yn 1901 byddai'r plant yn derbyn eu haddysg mewn pynciau fel English, Religious Education, Arithmetic a'r pryd hynny roedd Rhyfel y Boer yn destun i'w ystyried. Cofnodwyd fod y plant wedi cael 'day in mourning' wedi marw y Frenhines Fictoria ond prin yw'r sôn eu bod wedi clywed am streic fawr Chwarel y Penrhyn a'r bywyd caled a ddioddefodd trigolion bro Bethesda. Bu lIawer tro ar fyd a ninnau heddiw yn rhan o'r Ewrop ddemocrataidd ond cofiwn mai Cymry yw ein plant a'n dyletswydd yw eu meithrin yn Gymry ac yn ddinasyddion heddychlon.
 |