| Pwrpas y tîm yw ymdrin â sefyllfaoedd argyfyngus er enghraifft pan fo'r claf yn dioddef o gyflwr y galon neu broblemau anadlu. Dechreuodd y tîm ar eu hyfforddiant arbenigol yn ôl ym mis Ionawr, ac erbyn hyn maent i gyd yn gymwys i ddelio â sefyllfa argyfyngus drwy roi cymorth cyntaf i glaf tra'n aros i ambiwlans gyrraedd i'w gludo i'r ysbyty. Pan dderbynnir galwad 999 gan reolwyr gwasanaeth ambiwlans, byddant hwy yn eu tro, yn penderfynu os oes rheidrwydd galw'r Ymatebwyr Cyntaf yn ogystal â'r ambiwlans. Mae'r gwirfoddolwyr yn gweithio fel pâr a'r gobaith yw y byddant yn gallu cynnig eu gwasanaeth drwy gydol y dydd a'r nos i ardal wledig eang. Yn y llun gwelir Glyn Tan y Gorwel, Gwynfor Maes y Bryn, Gwyn Dolwen Bach, John Harris, Geraint Trem Afon, Steve Pile (Paramedig), Buddug Pentre Wem, Lona Plas yn Blaenau, Julie Dolwen Fawr ac Annwen Bont Syllty. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â thim arbenigol o'r fath fyddai'n gwneud gwahaniaeth i'r ardal, cysylltwch â Geraint Roberts ar 01745 860356 yn ystod y dydd.
 |