Gyda chymaint o sôn am broblemau cymdeithasol, cymunedau ar chwâl a phobl ddim yn adnabod eu cymdogion mewn dinasoedd mawrion, mae pryder difrifol am henoed ein hardaloedd. Yn ôl ystadegau 'Age Concern Cymru' roedd 66,000 o bensiynwyr Cymru, sef 11% bensiynwyr y wlad yn debygol o dreulio'r Nadolig cwta ddeufis yn ôl, ar eu pen eu hunain. A chyda'r tywydd oer diweddar, mae cyngor cynyddol gan asiantaethau sy'n gofalu am yr henoed i alw heibio ein cymdogion hŷn. Y cyngor pwysicaf yw sicrhau bod eu cartrefi yn glyd a chynnes, bod ganddynt ddigon o fwyd a diod gynnes a bod golau ymlaen ganddynt gyda'r nosau.
O glywed y cynghorion hyn, braf yw rhannu gyda darllenwyr Y Gadlas hanes digwyddiad arbennig yn Groes yn ddiweddar. Swper Blynyddol yr Henoed oedd y digwyddiad lle gwahoddwyd pensiynwyr ardaloedd Bylchau, Nantglyn, Groes a Rhiw ynghyd i gymdeithasu ac i fwynhau pryd pedwar cwrs am ddim yn y Neuadd Bentref yn Groes.
Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor yr Henoed, Celfyn Williams: "Cawson ni wledd, ac mae'n diolch ni'n fawr i bwyllgor yr henoed a chyfeillion y pwyllgor am eu gwaith diflino. Tydi hi ddim yn hawdd paratoi pryd pedwar cwrs i dros 40 o bobl mewn neuadd bentref, mae dipyn o waith trefnu a pharatoi o flaen llaw. Diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth!"
Mae tua chwarter canrif ers sefydlu'r Pwyllgor yn yr ardal i gynnig cymorth ariannol i henoed anghenus y fro. Gyda chyfraniadau o ffynonellau ariannol gwahanol, bu'r pwyllgor yn paratoi parseli bwyd a nwyddau defnyddiol i bensiynwyr yr ardal bob Nadolig. Ychydig wedyn, penderfynwyd trefnu tripiau blynyddol i leoliadau gwahanol megis Betws-y-Coed a Llandudno gan oedi cyn dod adref am swper. Wrth i safon byw cymdeithas newid, tawelodd y gweithgareddau hyd nes rhyw dair blynedd yn ôl.
Fel yr eglura Lloyd Edwards, aelod o'r pwyllgor: "Roedden ni'n teimlo bod mantais fawr o gynnig gweithgaredd lle'r oedd pensiynwyr yr ardal yn dod ynghyd yn gymdeithasol. Penderfynwyd felly baratoi'r swper blynyddol. Byth ers ei sefydlu, mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol."
Yn ôl at y wledd eleni, wedi gweini'r coffi a'r mintys, cafwyd adloniant penigamp yng nghwmni bechgyn lleol Tuxedos Blêr, pedwarawd sy'n deillio o Aelwyd Rhuthun gyda chyswllt lleol arbennig, Eirwyn Tan y Marian yn eu mysg. Yn perfformio caneuon ysgafn soniarus, llwyddodd y pedwarawd lleisiol digyfeiliant i greu awyrgylch arbennig i ddilyn y wledd.
I gloi'r noson, daeth Eilwen Jones i godi cynnwrf, wrth ddenu rhai o'r pensiynwyr ati ar y llawr i ddawnsio llinell. Roedd yn glo gwerth chweil i noson bleserus!
Wrth droi'r pendil amser i'r gwrthwyneb, dyma gyfle hefyd i rannu newyddion am ieuenctid yr ardal. Unwaith y mis, cynhelir Clwb Yr Urdd wedi'r ysgol yn Ysgol Rhydgaled, Groes. Yn ddiweddar, daeth Lowri Ann Watson, Swyddog Datblygu Cynorthwyol Sir Conwy gyda'r Urdd draw i gynnal gweithgaredd gyda'r plant. Cafodd y plant lond lle o hwyl wrth ddysgu sut i greu dynion crog allan o bapur, ac yna cawsant gyfle i addurno dynion sinsir. Bu cryn frwdfrydedd i addurno'r dyn gorau, gan bod gwobr i'r dyn sinsir mwyaf deniadol.