Diddorol oedd darllen yn y Gadlas (fis Hydref) am groesawu ifaciwî yn ôl i'r ardal. Daeth â llawer o atgofion yn ôl i minnau am yr amser a dreuliais yn Llansannan ar ôl dod yno o Lerpwl yn fachgen chwech oed. Aeth fy mrodyr a minnau i Chwibren Isaf, aeth fy nwy chwaer i Chwibren Uchaf. Bywyd wahanol iawn i Lerpwl - mynd i gapel bach Glanrhyd bore a pnawn bob Sul ac i Gapel Coffa Henry Rees gyda'r nos, a hefyd i'r seiat pob nos Iau. Robert Owen oedd y gweinidog, dyn hynod a gafodd effaith mawr arnaf. Mynd yn gyntaf i'r ysgol fach gyferbyn â siop sinc a wedyn i Ysgol y Llan. Cofiaf am garedigrwydd yr athrawes Mrs Wynne, hefyd am gael (a haeddu) y gansen weithiau oddi wrth Mr Vaughan! Wedyn es i'r ysgol ramadeg yn Ninbych, cael y bws yn ôl i Lansannan, wedyn cerdded i'r Chwibren. Galw yn aml i'r Acrau Uchaf wrth fynd heibio - wastad yn cael llefrith a darn o gacen yno! Gwrthod mynd yn ôl i Lerpwl pan orffennodd y rhyfel tan gorfodwyd i mi fynd ychydig cyn i mi adael yr ysgol. Lerpwl yn le dieithr iawn - a minnau â Saesneg digon clapiog - fum yn ddigon ffodus i gael lle efo criw o fechgyn oedd yn canu o amgylch y deyrnas yn y 'Music Halls'. Ac yna yn dod i Awstralia pan yn ddwy ar bymtheg oed, ac rwyf yn dal i wneud fy mywoliaeth drwy ganu heddiw. Cefais y fraint o fod yn arweinydd y Cymry ar wasgar yn y genedlaethol ym 1996. Yn awr yn 73 a thri o blant gennyf, sef Carys yn wyth oed a'r efelliaid Gwyn ac Emlyn yn bump oed, llawer o bethau da wedi digwydd i mi dros y blynyddoedd, ond y peth gorau oedd dod i Lansannan fel un o'r 'plant cadw' - at garedigrwydd Dafydd a Marged Evans.
 |