Dyfarnwyd y grant hwn trwy'r cynllun Cyfoeth Cymru Gyfan/Rhannu Trysorau sy'n helpu amgueddfeydd lleol i arddangos eitemau sydd ar fenthyg iddynt gan Amgueddfa Cymru. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am arddangosfa ryngweithiol newydd ar fywyd cymdeithasol yr ardal. Hefyd, bydd yn ariannu gwaith gydag artist i greu lluniau cyfoes o'r Rhyl ac yn talu am welliannau i'r cyfleusterau arddangos er mwyn i'r amgueddfa fedru arddangos eitemau archaeolegol o Sir Ddinbych sydd wedi'u benthyg o gasgliadau cenedlaethol. Dywedodd Susan Dalloe, Swyddog Datblygu Amgueddfeydd Cyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gydag Amgueddfa Cymru i ddatblygu'r prosiectau cyffrous hyn. Bydddwn yn manteisio i'r eithaf ar dechnoleg fodern, gan gyflwyno ffordd newydd i bobl leol ymgysylltu â'u hanes." Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth: "Mae'r cynllun Rhannu Trysorau yn sicrhau bod rhagor o bobl yn gallu gweld casgliadau cenedlaethol rhagorol Cymru trwy ddod â'r eitemau i'r cymunedau lleol. Mae arddangosfa ryngweithiol Amgueddfa'r Rhyl yn brosiect cyffrous iawn a bydd yn rhoi peiriant amser rhithwir i'r gymuned leol a fydd yn eu galluogi i deithio yn ôl i'r gorffennol."
 |