| Nos Wener, Tachwedd 24, mewn seremoni anrhydeddus, cyflwynwyd y Tlws i Sian Eirian o Langernyw. Yn ogystal â hynny, derbyniodd y wobr gyntaf yn ei hadran gyda'r Celfyddydau. Roedd deg gwahanol gategori yn y gystadleuaeth. Mae Siân yn llwyr haeddiannol o'r anrhydedd yma yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwraig yr Eisteddfod a'r celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru. Ers iddi gael ei phenodi bu'n gyfrifol am lwyfannu'r Eisteddfod gyntaf i gael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, bu'n ail drefnu Eisteddfod 2001 oherwydd Clwy'r Traed a'r Gennau, a llwyfannu Gŵyl a oedd yn cael ei theledu o ddau lwyfan yn y Gogledd a'r De. Mae ganddi gyfrifoldebau mawr o gydlynu'r trefniadau ar gyfer holl weithgareddau celfyddydol y Mudiad. Bu Siân yn gyfrifol am ail drefnu Theatr Cenedlaethol y Mudiad a hefyd am ddatblygu Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Dywedodd un o'r beirniaid, Pat English o'r Western Mail, fod Siân Eirian yn feddiannol o'r holl rinweddau yr oeddent yn edrych amdanynt wrth feirniadu cystadleuaeth Cymraes y Flwyddyn a bydd yn llysgennad ardderchog i ysbrydoli cynulleidfa newydd ac ieuengach drwy'r Urdd.
Llongyfarchiadau mawr yr ardal i ti Siân.
 |