Cychwynnodd criw o ffrindiau a pherthnasau o Langernyw fore Sul, Hydref 20fed i ardal yr Ardennes yng ngwlad Belg. Teithio ar drên y sianel a chyrraedd Calais i aros am noson er mwyn cael cyfle i weld y dref -yr ydym fel arfer yn ei phasio. Teithio ymlaen fore Llun i Brugges am y diwrnod, tref hardd dros ben gyda chamlesi drwyddi fel Venice (ond yn lanach). Manteisiodd y rhan fwyaf ar y ffordd honno a'r ffordd orau o weld y ddinas.
Aethom i weld y cerflun o Madonna a'i phlentyn, un o'r ychydig iawn o weithiau Michaelangelo sydd wedi gadael yr Eidal. Gwelir ef yng Nghadeirlan Notre Dame. Roedd yn rhaid rhyfeddu unwaith eto at yr adeiladau trawiadol o hardd a hynafol sydd yn nau sgwâr y dref.
Teithio ymlaen wedyn i gyrraedd gwesty Mercure yn Dinant lle roeddem yn aros am weddill yr wythnos.
Castell Dinant
Cael cyfle ddydd Mawrth i fynd i mewn i'r dref gaerog ar lan yr afon a churo dwylo i Lloyd y dreifar am lywio'r bws drwy'r hafn yn y graig a oedd fel porth i'r dref. Aethom i fyny i'r castell mewn car cebl a cherddodd ambell un i fyny'r llwybr serth. Cawsom ein tywys o gwmpas y castell ac i mewn i ffosydd ar ddiwedd y daith lle roedd teimlad chwil rhyfeddol gan fod y lloriau ar osgo.
Yn y pnawn cawsom daith i lawr yr afon mewn cwch a thipyn o hanes y lle ac yna gweld cartref Adolphe Sax a ddyfeisiodd y sacsoffon.
Ddydd Mercher teithiwyd i Luxembourg am y diwrnod. Yn y bore cawsom daith mewn trên bach heb gledrau a oedd yn gallu mynd â ni drwy'r parc a llawer o lefydd na allai'r bws fynd. Mae dwy ran i'r dref, yr hen a'r newydd, a dyffryn mewn hafn rhyngddynt wedi eu cysylltu â phontydd.
Mae'n dref ddiddorol ac yn ei chanol, gastell y teulu brenhinol. Mae gwlad Luxembourg yn llai na Chymru a chanddi hunanlywodraeth.
Ymweliad â Brwsel
Ddydd Iau, roedd llawer o edrych ymlaen i ymweld â Brwsel, sydd erbyn hyn yn ganolfan i Ewrop. Cawsom dywysydd o Sais sydd wedi ymgartrefu yno, i'n harwain o gwmpas yn y bws. Roedd y Cynulliad Ewropeaidd yn eistedd yn Stasbourg y diwrnod hwnnw, ond roedd cyfarfod pwysig ym Mrwsel a'r strydoedd o gwmpas yr adeiladau wedi eu cau at y pnawn. Llwyddodd rhai i fynd yno ar droed a chael mynediad i un rhan.
Gorffennodd y daith o gwmpas Brwsel ar droed a Mr King yn ein harwain i mewn i'r sgwâr anfarwol Grande Platz. Yno y daeth Euros Dolwen Fawr i'n cyfarfod yn ei awr ginio ac roedd yn braf iawn ei weld a chael sgwrs, a mwy o wybodaeth am y ddinas ganddo. Aeth pawb i grwydro'r ddinas yn y pnawn.
Ogofau Han
Dydd Gwener cawsom ymweld ag ogofâu Han, sydd yn fyd enwog am eu maint a'u harddwch, yn llawn stalagmites a stalagtites. Roedd trên bach yn ein cario at yr ogofau, ac yna cerdded am tua dwy filltir o dan ddaear fel trwy wlad y tylwyth teg ac allan mewn cwch ar yr afon sydd yn rhedeg drwy'r ogofau. Ffurfiwyd y fath harddwch trwy effaith yr afon Lesse yn gwisgo ac erydu y garreg galch. Yn y pnawn cawsom ymweliad â thref brydferth Namur.
Ddydd Sadwrn cychwynnwyd am adref yn gynnar er mwyn cael aros am ychydig oriau yn nhref Ypres lle mae llawer o gofebau i goffau y rhyfeloedd byd. Mae'r bwa marmor - Menin Gate' yn ein hatgoffa o enwau y miloedd a laddwyd heb gael eu claddu, a'r amgueddfa ryfel yng nghanol y sgwâr yn ein hatgoffa am erchyllterau rhyfel.
Roedd poster i fyny yn Gymraeg a'r geiriau Dowch gvda mi fechgyn! Ymrestrwch heddyw'. Wrth deithio i mewn i'r dref gwelsom olion ffosydd rhyfel gerllaw y ffordd. Mae tua 160 o fynwentydd o gwmpas Ypress ei hun a rhaid oedd aros ym mynwent Artillery Woods i roi torch o rug ar fedd Hedd Wyn. Tystiai rhai mai hyn oedd uchafbwynt y gwyliau iddyn nhw.
Teithio adref yn hamddenol a chyrraedd ychydig oriau cyn y storm enbyd, wedi cael wythnos i'w chofio.