Wyt ti'n teimlo'n freintiedig?
Rwyf yn cael y cyfle i weithio ar gar Ferrari GT2 sydd yn rhan o'r Le Mans Series. Y mae'r car yn cael ei rasio mewn cyfanswm o wyth o rasys a rwy'n mynd gyda'r tîm gan deithio i draciau ar draws Ewrop.
Beth yn union wyt ti'n wneud efo Virgo Motorsports?
Fel rhan o'r tîm rwyf yn gweithio tuag at ddarparu'r car ar gyfer y rasys. Y mae fy nghyfrifoldeb yn amrywio o setio'r car i fyny i gyfnewid darnau gwahanol ar gyfer y ras. Yna, yn ystod y ras rwyf yn gweithio yn y pit yn newid olwynion ac yn ail lenwi â thanwydd.
Ers pryd rwyt ti wedi bod yn gwneud hyn?
Rwyf yn awr ar fy ail dymor gyda'r tîm.
Sut wnest ti glywed am y gwaith i ddechrau?
Wedi graddio mewn Peirianneg Ceir Rasio cafodd fy ffrind o'r un cwrs gwaith gyda'r tîm fel prif beiriannydd. A phan ddaeth i wybod am y swydd cysylltodd â mi i gynnig y swydd i mi.
Faint o help oedd dy radd mewn Peirianneg Ceir Rasio ym Mhrifysgol Abertawe i ti gael dy gyflogi gan Virgo Motorsports?
Roedd fy ngradd o fantais fawr i mi gan fod gen i ddealltwriaeth o 'motorsports' ac o ddeall rhinweddau car a sut i'w adeiladu.
Faint o bobl sydd yn gweithio yn y tîm Ferrari?
Yn ystod penwythnos rasio mae yna ddeg o bobl yn gweithio ar y car.
Efo 'run bobl rwyt ti'n gweithio bob tro? Ydyn nhw'n dod o nifer o wledydd gwahanol?
Ia, byddaf yn gweithio gyda'r un bobl bob penwythnos rasio, ac mae'r mwyafrif o'r tîm yn dod o Essex, ond mae un o yrwyr y car yn dod o'r Eidal.
Erbyn hyn, mewn sawl gwlad rwyt ti wedi bod efo'r tîm GT2?
Rwyf wedi bod ym Mhortiwgal, Ffrainc, Sbaen, Yr Eidal, Gwlad Belg, Yr Almaen a hefyd yn Silverstone, Lloegr.
Pa un wyt ti wedi fwynhau fwyaf hyd yn hyn? Unrhyw reswm yn arbennig?
Credaf mai'r ras i mi ei mwynhau fwyaf oedd y ras ddiwethaf yn Spa, Gwlad Belg. Roedd hi'n ras agos iawn yn erbyn ein prif wrthwynebwyr, Felbermayr Porsche. Roeddem wedi ennill i gael cychwyn yn gyntaf yn y ras. Cychwynnom yn dda ac yn fuan roeddem ymhell ar y blaen, ond datblygodd problemau gyda'r car, wedi i gar arall ein taro a hynny wnaeth y car yn anodd i'r gyrrwr ei reoli. Roedd ein gwrthwynebwyr yn ennill tir â phob lap. Erbyn lap olaf y ras roedd y Porsche yn dynn ar ein sodlau ac yn mynd am y blaen. Roedd yn lap hir i'w gwylio, a chroesom y llinell ochr yn ochr â'r Porsche, ond ein Ferrari ni a ddaeth yn fuddugol.
Beth ydy'r peth gorau am y gwaith yn dy farn di, Dyfan?
Cael teithio i wahanol wledydd a chael bod yn rhan o ras sy'n enwog drwy'r byd.
Faset ti'n hoff o rasio ceir dy hunan?
Buaswn wrth fy modd yn rasio ceir fy hun, ond mae hi'n sbort gostus iawn.
Beth am y dyfodol? Faset ti'n lecio datblygu dy yrfa yn y cyfeiriad yma?
Buaswn yn hoffi parhau i rasio gyda'r tîm gan obeithio gwneud mwy o rasys eraill o gwmpas y byd os daw'r siawns. Mae'r ras nesaf ganol Mehefin yn ras fawr. Ras Le Mans 24 awr sydd yn cael ei gwylio yn fyd eang.
Dymuniadau gorau i ti efo Virgo Motorsport. Diolch yn fawr Dyfan am dy amser.