Daeth y Pencampwraig beicio mynydd Siân Roberts, y Cynghorwyr Sir, Ian Jenkins a Wyn Jones, a siopau Snowdonia Hire and Training a Beics Betws yno i gefnogi ac i gynorthwyo. Hwn hefyd oedd y cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau Cyfeiriannu Beicio Mynydd fydd yn digwydd yn yr ardal.
Roedd hi'n ddiwrnod pwysig yn hanes cynnar Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy ac roedd ei llwyddiant yn ganlyniad i waith caled a dycnwch aelodau'r Clwb fu'n cydweithio â
Phartneriaeth Awyr Agored Gogledd-orllewin Cymru, Bwrdd yr laith a chlybiau eraill yn yr ardal yn cynnwys Clwb Cyfeiriannwyr Eryri.
Ar ran y Bartneriaeth, dywedodd Arwel Elias, Swyddog Datblygu'r Bartneriaeth yng Nghonwy, "Mae'r digwyddiad yma'n brawf bod pobl leol, o gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored, am gymryd rhan ynddyn nhw a'u cefnogi.
"Gyda mwy o ddigwyddiadau o'r math yma mae modd i ni newid y ffordd mae pobl leol yn edrych ar weithgareddau awyr agored."
Fe gymrodd mwy na 100 o feicwyr ran yn y digwyddiad Cyfeiriannu Beicio Mynydd, oedd yn cynnwys cwrs ar gyfer teuluoedd a rhai ifanc, cwrs ar gyfer oedolion a chwrs mwy traddodiadol ar gyfer cyfeiriannwyr ar droed.
Enillwyr adran yr oedolion oedd tîm 1 John Lister ae Arwel Roberts, ac roedd y canlyniad yn agos iawn yn yr adran iau rhwng yr enillwyr Steve a Callum Jones a'r ail dîm Andrew a John Branwell.
Yn dilyn glaw'r wythnosau cyn y lansiad roedd sawl un o'r wynebau hapus oedd i'w gweld ar ddiwedd y dydd yn fudr, gydag aml i set o ddannedd gwynion yn gwenu drwy haenen drwchus o fwd!
Dywedodd Arwel Elias ynglŷn â'r digwyddiad "Mae o wedi bod yn llwyddiant o ran y clwb ac mae hi wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau Beicio Mynydd.
"Roedd o'n dda hefyd gweld cymaint deuluoedd a rhai ifanc yn eu plith."
Roedd Jon Harland, Swyddog Datblygu Beicio Cymru yn y gogledd yn llawn edmygedd o'r trefniadau ac yn gweld pethau'n argoeli'n dda ar gyfer dyfodol y Clwb.
"Mae yma bwyllgor brwdfrydig iawn sy'n ·symud y Clwb yn ei blaen yn ei dyddiau cynnar. Rydw i'n arbennig o falch eu bod eisoes yn edrych ar gysylltiadau 'Go-Ride' rhwng y Clwb ac ysgolion, gyda chymorth oddi wrth Beicio Cymru a'r Bartneriaeth Awyr Agored.
"Mae'r cysylltiadau gyda'r Bartneriaeth Awyr Agored a Bwrdd yr laith wedi golygu bod rhywbeth bron yn unigryw wedi ei greu yma'n yn Nyffryn Conwy, sef clwb beicio gyda'r Gymraeg yn brif iaith a chyfrwng ei weithgareddau.
"Mae llwyddiant y digwyddiad lansio'n brawf o gywirdeb y polisi, a bod pobl leol o gefndir Cymraeg a Saesneg yn dod i ddeall bod ymuno i'r clwb yn agor y drws i brofiadau ymhlith y gorau mewn beicio mynydd gan wneud y gorau o'r tirlun godidog sydd o'u cwmpas."
Mae ymaelodi â'r Clwb yn £12 y flwyddyn i oedolion, yn £9 i ieuenctid (14-18) a £6 i'r iau (12-14), a'r ffurflenni ymaelodi ar gael oddi wrth ysgrifenyddion y Clwb Dafydd Apolloni (01492 642 108 [email protected]) neu Dafydd Chilton (01492 642 796 [email protected])
Does ond angen clic llygoden i gael mwy o wybodaeth am y Clwb ac am glybiau eraill yn yr ardal, am eu digwyddiadau ac oriel luniau o'r rhai sy'n cymryd rhan.
Ewch i wefan dwyieithog y Bartneriaeth Awyr Agored www.partneriaethawyragored.co.uk.