Saif Nant yr Henfaes ym mhen uchaf plwyf Gwytherin, heb fod ymhell o'r Afon Derfyn. Dywedir mewn traethawd gan y diweddar Mrs Cledwen Roberts mai "hen faes yw ystyr yr enw, ac yn uwch i fyny'r llechwedd mae fferm Moelogan, lle canent ar ôl y fuddugoliaeth." Y cofnod cyntaf gennyf am y lle yw genedigaeth mab bach, David, i David a Mary Owen ym mis Ionawr 1790. Yn nechrau Rhagfyr 1791, ganed iddynt Maria, ond ni fu fyw ond am bedwar mis. Wedyn fe ddaeth Thomas a John, ac yna merch fach arall a fedyddwyd yn Maria ar ôl ei chwaer ymadawedig, yn ôl arferiad yr oes. Ym 1805 daeth Abraham Owens, 27 oed o Langernyw a Judith Williams, Gwytherin, yma i fyw ar ôl eu priodas. Ganed iddynt John ac yna William. Yna yn 1810, wedi marwolaeth ei wraig, fe ail-briododd Abraham Owens ag Eleanor Jones, a oedd yn byw yn Nant yr Henfaes ar pryd.
Dengys rhestr y trethdalwyr am 1832 a l838 mai Edward Roberts oedd yn byw yma erbyn hyn. Mae Map y Degwm 1842 yn dangos ei fod dal yma yn ffarmio'r "28 acres, 2 roods and 5 perches", ac yn talu gini o ddegwm. Y perchennog ar y pryd oedd John Williams, Plas yn Blaenau. Ganed llond tŷ o blant i Edward Roberts a'i wraig Catherine a oedd yn enedigol o Eglwys Bach, sef Robert, Evan, Elizabeth, Silvia, Catherine, Leah, Elizabeth arall, a Jane.
Erbyn 1861 mae'r lle yn cael ei ddisgrifio fel ffarm trigain acer ac mae Mary Roberts, 45 oed, gwraig weddw a aned yng Ngherrig y Drudion, yna. Gyda hi mae ei mab David, 16 oed, hefyd wedi ei eni yng Ngherrig, ac Elizabeth a John a aned yng Ngwytherin. Mae ganddi "lodger", Robert Jones, 77 oed, "of independent means".
Daeth y teulu olaf yma o Ben y Graig, sef William ag Anne Hughes a'u merched Elizabeth (a adnabyddid fel Lisa) a Hannah, a'r meibion Thomas a William. Enwir William Hughes, Nant yr Henfaes, yn un a oedd yn bresennol "at a Vestry meeting of the rate payers of the Parish of Gwytherin" yn 1869.
Bu farw William Hughes, ei wraig, a'r ddau fab, tra yn Nant yr Henfaes, y meibion yn ddim ond 20 a 24 oed. Symudodd y merched, sef Hannah, Lisa a'i merch Gwladys Ann yn ôl i Ben y Graig.
Hanes gan Heulwen Ann Roberts Gwytherin