| Dechreuais fy ngyrfa yn Foel Uchaf, Cyffylliog. Nid oedd sôn am drydan na theleffôn y pryd hynny ac roedd rhaid cario dŵr glân o'r ffynnon tua hanner milltir i lawr y cae. Prif gynhaliaeth y fferm oedd godro, gwneud menyn, magu lloi a chadw ieir. Yna, bob dydd Mercher, mynd i Ddinbych gyda'r ferlen a'r trap i werthu'r menyn a'r wyau - a chael ambell i ddadl go ddiddorol gyda'r prynwr wrth y stondinau! Yn yr haf pan oedd cyflawnder o lefrith roedd pris y menyn yn gostwng a phrinder prynwyr ac felly menyn dros ben. Canlyniad hyn oedd gorfod dod â'r menyn adref i wneud menyn 'pot' gan ddefnyddio digonedd o halen i'w gadw tan y gaeaf. Pryd hynny, roedd menyn yn gwerthu'n dda am bris sylweddol uwch a'r teulu yn byw ar y menyn 'pot' - roedd yn flasus iawn er ychydig yn hallt! Roedd yn arferiad cadw hwch fagu ar bob fferm oedd yn cael ei bwydo ar gynnyrch y fferm, sef haidd, a byddai mochyn bach yn cael ei gadw i'w besgi. Diwrnod arbennig oedd diwrnod lladd mochyn - rhaid sicrhau digonedd o ddwr poeth yn y boiler. Cedwid holl waed y mochyn ac roedd rhaid dal i'w droi rhag iddo geulo cyn i mam ei drin a chreu pwdin gwaed blasus dros ben. Defnyddiwyd pob darn o'r mochyn er paratoi bwyd - y perfedd mân yn cael ei sgaldio cyn ei ddefnyddio i wneud sosejys a'r cig mân a fyddai ar ôl y torri, yn cael ei wneud yn 'Yorkshire Ducks' gan ddefnyddio'r cadach sidan neu plonen y bol. Torrid pob ochr yn dri rhan cyn ei halltu ar garreg las y deri am fis, a'u hongian ar fachau distiau coed yn y gegin. Dyma flwyddyn o fwyd! Byddai cymdogion yn rhannu cig â'i gilydd ac felly yn sicrhau cig ffres ar wahanol adegau. Cofiaf, wrth edrych yn ôl, hafau eitha' cynnes yn y dau a'r tridegau a'r gwair yn cael ei drin gyda'r picffyrch neu gribin fel y gwelir yn y darlun, cyn ei wneud yn gydylau a'i gario adref. Ar ambell gynhaeaf gwlyb, arferid gwneud 'heulogydd', eu cribo'n ofalus ac ymhen ryw bythefnos ei gario i'r ydlan. 'Cynhaeaf oer' y gelwid y cynhaeaf hwnnw. Roedd ambell ddiwrnod ar galendr y flwyddyn pan arferai cymdogion gydweithio ar dasgau arbennig - golchi defaid, cneifio a chofiaf yn arbennig, y diwrnod dyrnu. Roedd angen hogyn i dorri rhwymyn yr ysgub, dau ddyn cryf i godi ysgubau i ben y llawr dyrnu, dau i gario brig, dau i gario gwellt, dau i dasu'r gwellt, un i gario'r mân us ac un i gario'r dŵr i'r boiler dyrnu. Roedd hyn yn creu cymuned glos a chynnes oedd yn hollol ddibynnol ar ei gilydd ac yn gyfle i fwynhau ffraethineb gwerinol cefn gwlad wrth y bwrdd swper. Diwrnod pobi yw diwrnod pwysig arall a erys yn y cof. Rhaid oedd sicrhau digon o goed i greu tân mawr yn y pobty i'w wneud yn chwilboeth fel y gellid pobi'r ddwy fadellaid o does oedd wedi'u paratoi. Defnyddiwyd rhaw bren efo coes hir i osod tua ugain o dorthau yn y pobty wedi clirio'r lludw poeth allan. Digon o fwyd wedyn am dair wythnos i fis! Wrth edrych yn ôl, mae rhywun yn sylweddoli ei bod yn haws o lawer arbed punt na gwneud punt. Mae newidiadau mawr wedi digwydd ym myd amaeth - a diolch am hynny. Credaf y bydd llawer o newid eto yn y dyfodol agos. Rhaid diogelu y ffermydd teuluol ynghyd â chymdeithas yng nghefn gwlad drwy sicrhau statws y ffermwr wrth iddo hefyd allu ychwanegu at ei incwm mewn ffyrdd eraill. Arthur Williams
 |