| Daw hyn dros ugain mlynedd wedi'r ymweliad diwethaf, pan gafwyd un o wyliau mwyaf llwyddiannus y cyfnod presennol yn Theatr yr Arcadia, Llandudno. O dan gadeiryddiaeth Maureen Hughes, Llanrwst mae'r trefniadau ar y gweill ar gyfer gŵyl 2004 a gynhelir ar Dachwedd 21ain yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno. Heb os Gŵyl Dyffryn Conwy fydd Gŵyl 2004; mae'r dalgylch yn ymestyn o Bentrefoelas i Landudno, ac o Lanfairfechan i Fochdre a Llangernyw i Gapel Curig. Tyfodd yr ŵyl erbyn hyn yn sylweddol iawn ac mae angen adnoddau fel sydd yn Theatr Gogledd Cymru. Mae'r telynau a'r cystadleuwyr angen cyfleusterau na all neuadd a phabell yn y cefn eu cynnig mewn mis Tachwedd llaith a gwlyb. Er y byddai Llanrwst wedi bod yn leoliad rhagorol pe bai'r adnoddau ar gael, rydym yn ffodus iawn fod Theatr Gogledd Cymru gerllaw ac mor hwylus. Eisoes, o dan arweiniad y Trefnydd Cenedlaethol, Dewi P. Jones, mae'r trefniadau ar y gweill. Mae is-bwyllgorau wedi eu sefydlu a rhestr destunau yn cael ei pharatoi. Bydd Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl 2004 yn cael ei gynnal yn Neuadd Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst ar Hydref 18, 2003 - dyma noson i'w chadw i gael blas o'r hyn a gawn yn 2004, mewn cyngerdd gan artistiaid lleol sy'n enillwyr cenedlaethol. Wrth gwrs bod angen cronfa ariannol, a bydd targedau yn cael eu rhannu rhwng gwahanol ardaloedd a phentrefi y dalgylch. Ond targedau ariannol heb fod yn sylweddol fydd y rhain. Disgwylir y medrwn sicrhau nawdd gan gwmnïau a sefydliadau yn yr ardal; hyn yn lleihau y ddibyniaeth ar yr ardaloedd o fewn y dalgylch. Yn ogystal y mae croeso i unrhyw un gyfrannu gwobr i unrhyw gystadleuaeth, trwy gysylltu yn y lle cyntaf gyda Dennis ac Enid Davies, ysgrifenyddion yr ŵyl ar 01492 640060. Edrychwn ymlaen am ŵyl lwyddiannus ac am hwyl a chymdeithasu yn ystod cyfnod trefnu'r Ŵyl. Mae llawer o frwdfrydedd ymysg aelodau'r is-bwyllgorau a'r Pwyllgor Gwaith, ac y cawn ddiwrnod i'w gofio ym mis Tachwedd 2004. Am unrhyw wybodaeth bellach cysyllter â Gwyn J. Williams (01492 640912).
 |