Er mai Byd y Merched yw teitl arferol yr erthygl hon, teimlaf y dylai gael ei newid am y mis yma'n unig i Fyd y bobl. Y rheswm pam rwyf am fod mor hy a gwneud hyn yw am fy mod yn gobeithio nad dim ond y merched fydd yn taro llygad dros y golofn, ond y dynion hefyd, yn enwedig gan fod mwy o ddynion yn aros gartref neu'n rhannu'r gwaith tŷ erbyn hyn. Rhan o'm swydd newydd fel Swyddog Addysg - Strategaeth Gwastraff, i Adran Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Conwy yw trafod Ailgylchu yn y Cartref. Oherwydd newidiadau yn Ewrop ac ym Mhrydain, mae' n rhaid i bob Cyngor dorri i lawr yn arw ar y gwastraff y maent yn cael gwared ag ef bob blwyddyn.
Ar y funud, mae pob teulu yn taflu oddeutu tunnell o sbwriel i'r domen bob blwyddyn. A chan fod gennym tua 60,000 o dai yn y Sir yn barod, a mwy a mwy yn cael eu hadeiladu'n ddyddiol (heb gynnwys y sbwriel trwm o'r busnesau, swyddfeydd, ysgolion ac ysbytai'r Sir), mae'n rhaid i ni dorri i lawr nawr, neu mi fydd y domen yn llawn yn sydyn iawn yn Llanddulas.
Ail-gylchu yn y cartref
A rhaid fydd dod o hyd i le arall cyfleus yn ein sir i'w ddifetha. Y ffordd hawdd a'r ffordd orau o wneud hyn yw drwy ailgylchu yn y cartref. Os nad ydych yn ailgylchu'n barod mewn unrhyw ffordd, mi fydd yn rhaid i chi ddechrau'n fuan iawn oherwydd o Ebrill 2004-2005 ymlaen bydd Casgliad Ochr Palmant ( "Kerb Side Recycling") yn cael ei wneud yn orfodol yn ein Sir. Golyga hyn y bydd yn rhaid i bob eiddo domestig sortio a rhannu'r sbwriel gartref i focsys a gewch gennym ni. O hynny 'mlaen, byddwch yn cael casglu eich sbwriel yn y bin ar olwynion bob pythefnos, a bydd y bocsys ailgylchu a fydd yn llawn o bapur, gwydr a chaniau yn cael eu casglu yn yr wythnos ganlynol.
Ac felly bydd y patrwm yn debyg i hyn - cael gwagu eich bin olwynion - bocsys ailgylchu - bin olwynion - bocsys ailgylchu ac yn y blaen. Os oes gennych deulu mawr neu os ydych yn frwdfrydig iawn, hwyrach na fydd y bocsys ailgylchu yn ddigonol i chi ac mi fydd gennych nwyddau ailgylchu dros ben, ac felly 'rydym fel adran am roi llawer o fanciau ailgylchu hwylus ym y rhan fwyaf o bentrefi'r Sir i hwyluso ailgylchu yn enwedig gwydr, papur a chaniau.
Mae Mam yn Ailgylchu gartref ers blynyddoedd maith, ac erbyn hyn dwi'n amau iddi fod yn frenhines' y fro ar ailgylchu - tasa hi'n cael caniau, gwydr, dillad, esgidiau, cardbord, batris, dodrefn, plastig a gwastraff gardd na ellir ei gompostio acw. Erbyn hyn rydym yn ei wneud heb feddwl - mae o wedi mynd yn awtomatig i ni i gyd fel teulu. Dim ond wrth gymryd eiliad i feddwl cyn taflu i'r bin ar olwynion.
Y prif lefydd yr ydym yn eu defnyddio i Ailgylchu yw Kwik's yn Llanrwst wrth wneud ein siopa wythnosol, a hefyd wrth fynd i lawr yr arfordir am dro ar fore Sadwrn 'rydym yn galw i mewn ar ein ffordd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Tŷ ger yr Amlosgfa ym Mochdre. Erbyn 2004, bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Tŷ fawr arall yn cael ei hagor yn hwylus iawn yn Abergele ac 'rydym yn gobeithio am un yn Llanrwst a fydd yn ei gwneud yn haws i chi bicio a nwyddau i lawr yna yn rheolaidd. Er enghraifft, derbynnir y nwyddau Domestig canlynol yn y Ganolfan ym Mochdre - sydd ar agor 7 diwrnod o'r wythnos rhwng 9 y bore a 6 yr hwyr - Asbestos; Batris; Caniau; Cardbord; Dillad; Dodrefn; Gwastraff Gardd; Gwydr; Metel; Nwyddau Gwyn; Nwyddau Trydanol; Oergelloedd; Olew; Papur; Plastig; Poteli; Poteli Nwy; Pren; Pridd; Rhewgelloedd a Theiars.
Ffyrdd eraill yr ydym yn arbed yw drwy feddwl os y gellir atgyweirio, addasu neu ailddefnyddio yr eitemau a peidio prynu o'r newydd bob tro. Rydym hefyd yn trio cefnogi Ffeiriau Sborion a Seli Gist Ceir lleol. Rydym yn mynd â chylchgronau diweddar hefo ni wrth ymweld â'r Deintydd, Ysbyty neu'r Meddyg - does na'm byd gwaeth na tharo llygad dros gylchgrawn yn yr ystafell aros, a hwnnw'n bum mlwydd oed yn nagoes!
A hefyd, wrth brynu rhywbeth, beth am ystyried prynu eitemau sydd wedi cael eu gwneud allan o nwyddau wedi eu hailgylchu fel enghraifft papur tŷ bach, papur ysgrifennu, cardiau ac yn y blaen. Unwaith y dechreuwch ailgylchu, buan iawn y dowch i fwynhau'r gwaith - wir yr.
Ddiwedd Mai eleni byddwch i gyd yn derbyn llyfryn drwy'r drws oddi wrth ein hadran. Ei enw fydd Yr Ailgylchiadur. Bwriad y llyfryn bach yma yw rhoi gwybod i chi sut a beth y gellir ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu gael gwared ag ef yn saff yn ein Sir. Os byddwch angen mwy o wybodaeth ar sut i Ailgylchu neu angen i mi ddod draw i Gymdeithas neu Glwb i roi sgwrs fach, cofiwch gysylltu â mi ar y ffôn ar 01492 573337 neu ar yr e-bost - meira.owen@conwy.gov.uk
Gan :Meira Lloyd Owen