Roedd y noson dan lywyddiaeth Heulwen Edwards gyda Myfanwy Jones, Is-lywydd yn ei chynorthwyo gan i Heulwen fod dan
lawdriniaeth yn ddiweddar. Braf oedd cael ei chwmni ar ôl ei anhwylder. Cynhaliwyd yr ŵyl yng Nghanolfan Bro Aled, Llansannan. Cyflwynwyd Sion Jones, Abergele i roddi sgwrs ac
arddangosfa o luniau ar sgrin gydag awgrymiadau defnyddiol iawn ar sut i beidio gwneud camgymeriadau er mwyn
cael y gorau allan o'n camerâu.
Fel y gwyddom, mae Sion yn arbenigwr ar ffotograffiaeth.
Yna, cyflwynwyd Eiriola Williams o Fron Goch ger Y Bala a'i merch Medwen Charles o Rhyd Ucha. Roeddynt hwy yn
arddangos amrywiaeth o waith llaw, rhy niferus i'w rhestru a bob dim yn gywrain dros ben ac yn werth ei weld.
Treuliwyd orig ddifyr yng nghwmni'r trio. Roedd cyfle i ddilyn i'r rhai oedd yn bresennol i gael gweld yn fwy manwl
waith Eiriola a Medwen, mynd i edrych ar eitemau'r cystadlaethau, mynd am baned a sgon neu fwynhau'r arddangosfa o
waith aelodau'r canghennau o liwiau coch, pinc, hufen ac aur i gyd-fynd a thema 'Dathlu'r Deugain'.
Bydd rhai o'r
eitemau yma i'w gweld mewn arddangosfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug. Rydym yn ffodus fod gennym ferched mor dalentog yn ein plith sydd yn barod i arddangos eu gwaith fel ein bod i gyd yn cael y mwynhad a'r pleser o edrych arnynt.
Ann Jones, Cangen Bae Colwyn a Llinos Roberts, Cangen Henllan fydd yn gyfrifol am yr arddangosfa yn yr Eisteddfod. Mae ein diolch yn fawr iddynt.
Gwau - 1) Betty Williams, Llansannan 2) Gwenda Davies, LLansannan; =3) Hefina Gibson, Llanelwy a Llinos Roberts,
Henllan.
Gosod Blodau - 1) Laura Owen, Henllan.
Enillwyr y darian am y mwyaf o farciau yn y cystadlaethau crefft oedd Cangen Llansannan gyda Changen Henllan yn
derbyn y darian yn y gystadleuaeth Gosod Blodau.
Canghennau Llangwm, Pentrefoelas ac Uwchaled oedd yn gofalu am y raffl.
Paratowyd paned a.y.b. gan ganghennau Groes, Henllan a Nantglyn.
Talwyd gair o ddiolch yn gynnes iawn i bawb gan Diane Roberts, Llywydd Rhanbarth Colwyn. Gorffennwyd y noson
drwy gyd-ganu Anthem Genedlaethol y Mudiad.