| Enillodd Rhian Gwawr Davies o Langernyw a Mari Llywarch Tomos o Lannefydd eu lle yng ngharfan Merched dan 16 Cymru, Rhian yn y rheng flaen a Mari fel canolwr. Dewiswyd y ddwy i gynrychioli Gogledd Cymru ddechrau Mawrth, ac aeth y garfan honno i Lanfair ym Muallt ddydd Sul, Mawrth 10 lle chwaraesant yn erbyn tîm De-ddwyrain Cymru a thîm De-Orllewin Cymru, y ddwy gêm yn agos a chyffrous iawn mewn tywydd garw - prin y gellid adnabod y merched ar ôl y gemau gan fod cymaint o fwd drostyn nhw! Dewis y garfan genedlaethol Roedd dewiswyr Cymru yno i ddewis y garfan genedlaethol ac er mawr lawenydd i Rhian a Mari (a'u teuluoedd!) cafodd y ddwy wybod ar Fawrth 13 eu bod wedi ennill eu lle yn y garfan. Ymunodd Rhian â Chlwb Rygbi Nant Conwy ym 1999 wedi iddi gael blas ar y gêm wrth chwarae Rygbi'r Ddraig yn Ysgol Bro Cernyw. Fel rheol bydd yn chwarae yn safle prop neu fflancar, ond mae'n well ganddi fod yn y rheng flaen ym mol y sgrym! Mae'n mynd i'r ymarferion yn y Nant ar nos Fercher ac o bryd i'w gilydd yn Ninbych ar fore Sadwrn. Dim ond ers blwyddyn y bu Mari'n chwarae rygbi, wedi i Glwb Rygbi Dinbych sefydlu tîm i ferched dan 16 am y tro cyntaf yn hanes y clwb. Canolwr yw ei safle, yn taclo a hyrddio fel Ray Gravell ar ei orau. Prinder gwrthwynebwyr Mae'r tîm yn ymarfer ar gaeau'r clwb rygbi bob nos Fercher a bore Sadwrn, ac maen nhw wedi chwarae gemau yn erbyn Caernarfon a Bala - prinder gwrthwynebwyr yw'r anhawster ar hyn o bryd, ond mae'n siwr y bydd mwy o dimau yn cael eu sefydlu yn fuan gan fod Undeb Rygbi Cymru ar fin penodi Trefnydd Rygbi Merched rhan amser yn y Gogledd. Teithiodd y ddwy i Gaerdydd dros benwythnos y Pasg gan fod y garfan yn ymarfer ar gaeau'r Brifysgol fore Sul y Pasg, a chwarae gêm yn y prynhawn i ddathlu pen-blwydd Clwb Rygbi Treforys, ar gyrion Abertawe, yn 125 oed. Bydd y garfan genedlaethol yn dod at ei gilydd i gael eu hyfforddi yng Nghaerdydd ym mis Mai a mis Awst, a'r nod tymor hir i Rhian a Mari yw symud ymlaen i'r garfan Merched dan 19, wedyn y tîm llawn ar gyfer Cwpan y Byd 2006. Pob lwc i'r ddwy, sydd eisoes wedi cyflawni tipyn o gamp - merched cyntaf bro'r Gadlas i gael eu dewis i chwarae rygbi dros eu gwlad.
 |