| Sandra Knupple oedd y tenant cyntaf, bu'n rhedeg y siop am flwyddyn a hanner. Yna bu Menter Ardal Groes, gyda chymorth nifer o wirfoddolwyr, yn rhedeg y siop am bedair blynedd a hanner. Mis Awst 1999 cymerodd Noela Jones y denantiaeth a rhoddodd wasanaeth da i'r ardal am dair blynedd. Er yr holl newidiadau mae Siop y Pentre yma o hyd. Mae llawer ardal wledig wedi colli eu siop fach leol oherwydd difaterwch. Yr unig ffordd i sicrhau dyfodol y siop yw ei defnyddio. Erfyniwn ar bawb sydd yn byw yn yr ardal i wneud y defnydd mwyaf posib ohoni. Beth am archebu nwyddau yn y siop yn rheolaidd - gadael rhestr o'ch anghenion yn y bore a'u pigo hwy i fyny yn hwyrach yn y dydd? Mae costau rhedeg y siop wedi cynyddu yn sylweddol yn ddiweddar ac mae angen mwy o gefnogaeth os am gadw'r siop yn agored. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r siop dros y degawd diwetha' a gobeithio y bydd ei drysau'n agored am ddeng mlynedd arall. Stephanie Morris yw'r bostfeistres newydd a bydd y Swyddfa Bost ar agor ar fore Llun a bore dydd lau o 9 tan 11 o'r gloch y bore. Er mwyn cael perthynas glos mae'n gofyn i gwsmeriaid y siop wneud defnydd o'r Swyddfa Bost ac wrth gwrs i gwsmeriaid sy'n defnyddio'r Post gefnogi'r siop, oherwydd os bydd raid i'r siop gau, ni fydd Swyddfa Post chwaith.
 |