Dyma lun tractor a threlar yn cario gwair yn Ty Isa, Tanyfron, tua 1950/51. Fy nhaid a nain, sef Richard ac Ellen Rawson, oedd yn byw yn Ty Isa yr adeg honno ac roedd fy nhad, Harry Rawson, yn gweithio i'r 'War Ag' adeg y rhyfel, a dau arall a weithiai yno oedd y ddau ddiweddar frodyr Richard a Dafydd Williams, Waen Mywion. Yn y llun Dafydd (Dei) Waen Mywion sydd yn gyrru'r 'Fordson Major' a Brynle Rawson, fy niweddar frawd, yn sefyll a'i fraich ar yr olwyn. Tu ôl iddo fo mae Richard Waen Mywion a minnau yn sefyll y tu ôl.
 |