Bydd 11 o elusennau yng Nghymru'n rhannu swm o £1,647,259 yn sgil dyfarnu prif grantiau a grantiau i brosiectau hyd at £60,000 gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru yn ddiweddar. Bydd Cymorth i Ferched Y Rhyl a'r Cylch yn derbyn £192,477 i ddatblygu gwasanaeth allanol ar gyfer merched a phlant yn ardal Y Rhyl.
Diogelu gwragedd a phlant
Mae Cymorth i Ferched yn elusen rhyngwladol a'i nod yw diogelu gwragedd a phlant rhag trais yn y cartref. Mae'r mudiad yn darparu lloches, gwybodaeth, cefnogaeth, cyswllt allanol a chyngor i ferched sydd wedi neu yn cael eu camdrin yn emosiynol, corfforol neu rywiol.
Bydd y grant tair blynedd yn talu am gyflogi dau weithiwr allanol llawn amser ac yn cynnwys yr holl gostau teithio, recriwtio a chostau rhedeg, offer a thaflenni gwybodaeth.
Mae gan Gymorth i Ferched ganolfan yn Y Rhyl ers 1979 a bellach mae'n darparu lloches deuluol gyda lle i bedwar, canolfan gwybodaeth, gwasanaeth allanol yn ogystal â llinell gymorth argyfwng 24 awr.
Mae Cymorth i Ferched Y Rhyl a'r Cylch yn cael ei redeg gan saith o weithwyr rhan amser gyda chymorth 15 o wirfoddolwyr.
Y llynedd gofalwyd am 30 o deuluoedd yn y lloches yn ogystal â chefnogi dros 466 o ferched a phlant nifer ohonynt.
Amseru perffaith
Fel yr eglurodd Lynne Thackeray, Gweinydd-ydd Cyllid, mae'r grant wedi dod ar amser perffaith: "Mae'r gwasanaeth allanol yn cefnogi merched sydd wedi cael eu hail gartrefu ar ôl gadael y lloches yn ogystal â merched a phlant sydd eisoes yn byw yn y gymuned.
"Ein nod yw cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ferched a phlant - gan ddarparu gwybodaeth ynghylch budd-daliadau, grantiau, materion cyfreithiol ac addysgol. Mae'r gwasanaeth allanol hefyd yn annog merched i gymryd bywyd yn eu dwylo eu hunain a delio â'u problemau yn ogystal â magu hunan-hyder.
"Daeth ein cyllid tair blynedd ar gyfer y gwasanaeth allanol i ben fis Hydref diwethaf felly bu'n rhaid lleihau'r gwasanaeth. Mae'r grant hwn yn achubiaeth sy'n ein galluogi i barhau â'r gwaith o hyrwyddo ymwybyddiaeth o drais yn y cartref a chefnogi rhagor o ferched a phlant yn ein hardal."
Arian i fudiad arall
Mudiad arall ar ei ennill yng Ngogledd Cymru yw Stars (Safety, Tolerence, Awareness, Regeneration and Security) yn Sir Ddinbych Cyf a fydd yn derbyn £51,509 er mwyn datblygu panel atal troseddau ieuenctid/diogelwch cymunedol. Sefydlwyd Stars yn Sir Ddinbych Cyf ym 1995 ar y cyd â'r heddlu, yr awdurdod lleol a'r grwpiau cymunedol. Mae'n gynllun cymunedol er mwyn mynd i'r afael â lleihau trosedd a'r ofn a ddaw yn ei sgil yn ogystal ag ymdrin ag amrywiaeth o faterion fel camdrin alcohol a chyffuriau, diogelwch personol a bwlio.
Bydd Weston Spirit - elusen sy'n gwasanaethau Cymru gyfan a sefydlwyd gan Simon Weston, un o gyn-filwyr Rhyfel y Falklands, er mwyn hyrwyddo datblygiad personol, hyder a hunan-barch pobl ifanc - yn derbyn £298,657.
Bydd hyn yn galluogi'r elusen i ariannu pencadlys i Gymru yng Nghaerdydd. Bydd y grant hefyd yn talu am gyflogi Rheolwr Rhanbarthol i Gymru er mwyn datblygu gweithgarwch y mudiad yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Hyd yma, mae'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru wedi dosbarthu cyfanswm o dros £!22 miliwn er mwyn mynd i'r afael â thlodi a hyrwyddo gweithredu cymunedol.