Mae Luis yn gweithio fel rheolwr y fferm ieir ac mae Daniela yn athrawes yn Y sgol Howells, Dinbych. Daw Luis, sy'n siarad Sbaeneg fel iaith gyntaf, yn wreiddiol o Fecsico ac Eidales yw Daniela. Dim ond pedair oed oedd Lodovica pan ddechreuodd hi yn Y sgol Pant Pastynog yn Chwefror 2004 ac roedd hi eisoes yn rhugl mewn tair iaith, sef Eidaleg, Sbaeneg a Saesneg. O fewn cyfnod byr i gyrraedd yn Y sgol Pant Pastynog, roedd hi hefyd yn hollol rugl ei Chymraeg. Dyma brawf perffaith fod meddu ar ddwy iaith yn ei gwneud hi'n haws dysgu'r drydedd... a'r bedwaredd! Dyma gyfieithiad o ymateb Daniela i'r holiadur.
1.Pam y gwnaethoch chi benderfynu rhoi'r Gymraeg i'ch plentyn? Gan ein bod yn byw yng Nghymru, roedd yn ymddangos y peth amlwg i'w wneud fel y gall 0 leiaf un aelod
o'r teulu siarad yr iaith yn rhug1. Mae Luis hefyd yn cael gwersi Cymraeg. 2.Beth sy'n rhoi'r pleser mwya i chi? Y ffaith fod Lodovica erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg. 3.A oes gyda chi gyngor i deuluoedd eraill mewn sefyllfa debyg? Cadwch at yr holl ieithoedd rydych yn eu siarad o fewn y teulu a'u defnyddio yn y cartref.
 |