| Efallai nad yw'r tywydd oer yr ydym newydd ei brofi yn arwydd o hyn, ond mae'n siŵr fod yr eira wedi rhoi ysgytwad i'n hanifeiliaid gwyllt - er bod yr hydref mwyn a gawsom wedi rhoi cyfle i ddraenogod, llygod ac ystlumod fwyta digon cyn mynd i'w gaeafgwsg. Fe all gaeaf oer beri problemau lu i'n bywyd gwyllt. Diffyg bwyd yw'r broblem amlycaf, wrth gwrs; ond fe all diffyg dŵr am amser maith gael effaith andwyol ar adar a mamaliaid bach. Gan eu bod yn adar mor fychan, drywod sydd fwyaf tebygol o ddioddef o blith ein hadar brodorol, ac er mwyn ceisio goresgyn yr oerni nhw'n swatio at ei gilydd
nyth sydd wedi ei leinio â phlu. Help llaw ...
Ar adegau fel hyn, fe all rhoi rhywfaint o fwyd a dŵr i'r adar wneud gwahaniaeth mawr, ac yn ystod tywydd garw iawn fe all hyn achub bywydau nifer ohonyn nhw. Mae'r tiwbiau bwydo plastig a metel yn saffach i'r adar na'r rhwydi, gan fod eu coesau o dro i dro yn mynd yn sownd yn y neilon (dylid glanhau'r offer bwydo - dilynwch argymhellion y gwneuthurwyr). Hefyd, mae bwrdd adar syml yn boblogaidd dros ben gyda'r adar. Mae hadau cymysg yn fwyd da i'w ddefnyddio yn ystod y gaeaf gan eu bod yn llawn ynni, ond mae tameidiau o groen bacwn, neu reis neu datws wedi eu berwi, hefyd yn boblogaidd gyda'r adar. Er ein bod yn teimlo'r oerni yn ystod misoedd y gaeaf, mewn gwirionedd gaeafau eithaf mwyn a gawn o ystyried y rhai a gaiff gogledd a dwyrain Ewrop. Yr adeg yma o'r flwyddyn y daw ardaloedd gorllewinol Prydain yn gartref i adar sy'n mudo o afael y tywydd oer. Socan yr eira, sef aelod o deulu'r fronfraith, yw un o'r adar mwyaf nodedig o blith y rhain, ac mae modd gweld heidiau ohonyn nhw'n hedfan o amgylch y bryniau a'r gwrychoedd yn chwilio am ffrwythau neu aeron ola'r tymor. Trydar y robin goch
Does ryfedd, felly, nad yw'r adar yn canu rhyw lawer yr adeg yma o'r flwyddyn - er bod y robin fel petai'n gwrthod ildio i'r oerni, gan barhau i drydar trwy dawelwch boreau'r gaeaf. Os daw yna dywydd mwynach yn ystod mis Ionawr, fe fyddwn yn siŵr o glywed y titw tomos las, y dryw, llwyd y gwrych a'r fronfraith yn datgan bod y tymor magu ar fin dechrau. Bendith yw mai mis Chwefror yw mis byrraf y flwyddyn. Yn ystod y mis yma y gwelwn ni aderyn mwyaf atgofus ein harfordir a'n hucheldiroedd - sef y gigfran - yn paru. Tua dechrau'r mis, gellir gweld parau'n gwneud campau fry uwchben, yn plymio a throi a throsi er mwyn denu'r cymar. Mae'r campau yma'n arwydd bod gaeaf hir o chwilio am sborion ar fryniau a mynyddoedd llwm Cymru ar ben, a bod y gwanwyn ar fin dychwelyd unwaith eto. Gan Jonathan Neale, Ysgrifennwr Erthyglau, Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
 |