| Dyma gyfle eto i reidio'n Hondas C90 er mwyn cyflwyno'r siec, chwe mis yn union ar ôl cychwyn ar ein taith fawr.
Profodd y siwrne o Langernyw i John O'Groats ac yn ôl i fod yn un anturus dros ben. Cawsom ein cludo drwy fannau anghysbell, dros fynyddoedd uchel ac ar lan ambell i Loch, ac roedd y diffyg cyflymder yn ein galluogi i edmygu'r prydferthwch o'n hamgylch. Roedd yn amlwg fod golygfa'r pump ohonom ar y peiriannau pŵer isel yn creu cryn ddifyrrwch i bobl hefyd. Efo'r beics wedi eu llwytho a'n holl ger, roedd digon o edmygwyr i syllu a holi, yn gyfeillgar bob tro. Wrth gwrs, nid aeth y siwrne heb drafferth neu ddau. Fel pan dorrodd egsôst Dylan yng Nghaeredin neu'r adeg pan oedd injan Geoff yn bygwth ysgwyd yn rhydd o'r ffrâm ar ôl i bin pwysig dorri ger Inverness. Amseroedd crafu pen a baeddu dwylo ond llwyddo trwsio pob tro. Er yn boendod ar y pryd, roedd yr achlysuron yma yn ychwanegu at gyffro'r daith, ac yn brawf i'n dull hunangynhaliol o drafeilio.
Roedd gwersylla gyda thair pabell hefyd yn rhan fawr o'r trip. Cadarnhawyd ar y noson gyntaf fod rheswm da dros ben i Emyr gael pabell ei hun. Ar 61 deffro'n sydyn, sylweddolwyd nad arth oedd yn rhuo am ei swper ond chwyrnu byddarol Emyr! Yn dilyn y digwyddiad erchyll yma, gwnaed rheol fod ei babell ddim agosach nag ugain medr I'r gweddill ohonom!
Un o uchafbwyntiau'r trip oedd cyfarfod ein ffrind, Laurence Cox (Pen Rhiw) yn Fort William. Roedd Laurence wedi pedlo ei feic yr holl ffordd o Sheffield. Heb babell i gysgu ynddi, daethom ar ei draws mewn maes pebyll yn ei sach gysgu yn llochesu dan goeden! Yn hwyrach aethom i'r dref i ddathlu, a phrofodd y chwisgi lleol i fod yn ormod i Geoff! Yn y bore cawsom ambell i adroddiad gan bobl yn y maes pebyll eu bod wedi deffro yn y nos. Roeddent yn cwyno am y gwahanol synau!! Wrth gwrs, ni wyddem am y digwyddiadau hyn?!! Cwblhawyd y siwrne ar y degfed diwrnod mewn haul braf. Gwnaethom y daith adref o Keswick mewn amser da gyda'r pump ohonom yn reidio'r Hondas yn galed. Yn anhygoel, cawsom gyfartaledd o 115 milltir y galwyn ac roeddem wedi'n syfrdanu efo perfformiad y peiriannau bach. I'n diddanu ar y ffyrdd mwy diflas, cawsom ambell i ras - hyd yn oed ar 40 milltir yr awr roedd hyn yn gyffrous ac yn llawer o hwyl. Pen y daith oedd Tafarn y Bont yn Llangernyw gyda thyrfa o bobl i'n croesawu adref. Cadarnhawyd ein bod wedi trafeilio 1450 o filltiroedd gyda phawb yn edrych ymlaen am eu gwlâu moethus. I gyflwyno'r arian cawsom wahoddiad i faes awyr Dinas Dinlle ger Caernarfon. Yno, cawsom gyfle i eistedd yn yr hofrennydd a chyfarfod y criw. Roedd yn agoriad llygad i weld sut mae'r gwasanaeth hanfodol yn cael ei weithredu. Roeddem oll yn falch i allu cynorthwyo'r elusen anghenus, a hoffem ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd yn hael at y cyfanswm o £3562.50. Gwyliwch allan am ein hantur nesaf!
Dylan Owen, Bleddyn Jackson, Medwyn Evans, Emyr Evans a Geoff Wllliams.
 |