Cafodd y 'Seremoni Ysbrydoli Tiwtor a Mentor Oedolion 2009/10' ei chynnal yn ddiweddar ym Mharc y Scarlets, Llanelli.
Seremoni yw hon i ddathlu addysg oedolion a chydnabod yr unigolion y mae eu gwaith caled a'u hymroddiad wedi newid bywyd cyniler o bobl er gwell.
Cafodd ei henwebu gan Bennaeth Coleg Llandrillo Dinbych, Julia Hughes a hefyd myfyrwyr a lu yn ei dosbarthiadau.
Gwobrwywyd Sylvia oherwydd ei bod yn diwtor a mentor sydd wedi gwneud Coleg Llandrillo Dinbych yn rhywle ble gall dysgwyr deimlo'n wirioneddol eu bod nhw'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau.
Oherwydd prinder gofal plant lleol a shifftiau anwadal, methodd Sylvia ddal ati gyda'i gwaith fel nyrs yn y gwasanaeth iechyd.
Dechreuodd ddilyn cwrs 'cyfrifiadurol sylfaenol rhan amser er mwyn pleser, ac er nad oedd erioed wedi rhoi ei bryd ar fynd yn athrawes, blwyddyn a hanner yn ddiweddarach cafodd wahoddiad i ddod yn aelod o'r staff.
Oherwydd ei gwaith caled a'i hymroddiad, yn fuan le ddyrchafwyd Sylvia i swydd Darlithydd llawn amser mewn Technoleg Gwybodaeth, daeth wedyn yn Arweinydd Academaidd a Hyrwyddwr Dwyieithrwydd cyn, cael ei phenodi'n Rheolwr Cwricwlwm Dwyieithog ar gyfer Sgiliau Galwedigaethol.
Dywedodd un o fyfyrwyr Sylvia, Amanda Giblin, 'Mae hi'n rhoi llawer i'r Coleg fel tiwtor ac fel mentor.
"Rwy'n dweud mentor oherwydd y gefnogaeth mae hi'n ei roi i fyfyrwyr a'r staff.
"Mae'n gweld y gorau mewn pobl ac yn eu trin fel unigolion, beth bynnag fo eu gorffennol, eu crefydd, anableddau ac yn y blaen. "Mae ganddi hi'r ddawn i dynnu'r gorau allan ohonoch chi."
Cyflwynodd Llinos Edwards un o fyfyrwyr Sylvia llynedd englyn yn deyrnged iddi...
Diolch am dy lafur diwyd - a'r hwyl
Fu'n rhan o bob munud,
Yr help heb fesur ei hyd,
Dy ofal fel ffrind hefyd.
Dywedodd Sylvia, 'Mae bod yn rhan o daith ddysgu'r myfyrwyr a'u cael nhw i sylweddoli eu potensial eu hunain yn rhoi gwefr i mi, yn enwedig pan rydych chi'n dod yn ymwybodol o'r profiadau bywyd eithriadol y mae rhai o'r myfyrwyr yma wedi'w goresgyn.
"Credal nad yw'r siwrnai ddysgu, i run ohonom, byth yn dod i ben - ella i ond gobeithio y medra i ddal ati i ysbrydoli mwy o ddysgwyr i gael blas ar ddysgu ac i sylweddoli eu potensial."