| Buont yn ymweld a nifer o leoedd yn y cylch, ac o ddiddordeb arbennig roedd bedd y Parch a Mrs. O. W. Owen, cyn-genhadon yn y rhan yma o'r India. Cawsant eu tywys gan Aneurin Owen, Llwyn Derw, mab Mr a Mrs Owen, anwyd yn yr India. Croesawyd hwy gyda swper yn y festri a nifer fawr o aelodau'r Ofalaeth yn eu croesawu. Cawsom eitemau cerddorol ganddynt ac un ferch a llais gwefreiddiol ganddi. Meddyliwch eu bod yn medru canu Cytgan yr Haleliwia ar lan y bedd yn Abergele a hynny'n ddi-gyfeiliant. Bu eraill o'n plith ninnau yn cyfrannu eitemau. Treuliasant nos Sadwrn mewn gwahanol gartrefi'n yr ardal. Bore Sul cawsom eu cwmni yn yr oedfa a bu iddynt gymryd rhan eto. Maent yn ddiolchgar iawn am aberth ein cenhadon yn myned allan yno. Cywilydd arnom ni sydd mor ddibris o'r trysor sydd o fewn ein gafael. Roedd eu cael yn hwb i ninnau. Diolch am gael eu cwmni, er mai byr oedd eu harosiad. Dymuniadau gorau i'n gweinidog, y Parch Meirion Morris, sy'n cychwyn ar dymor gyda'r Annibynwyr. Boed bendith Duw ar ei genhadaeth yntau. Bydd yn dal i weinidogaethu'n rhannol yn yr Ofalaeth.
 |