| Mi dreuliais yr hanner arall yn mynd o gwmpas y sioe, ac yn y diwedd bum yn pendroni mewn adran ddiddorol iawn i mi, sef yr adran hen dractorau a pheiriannau. Mae'r adran yma i weld yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Fedrai ddim peidio ag edmygu y pobl yma sydd wedi treulio amser yn adnewyddu a thrysori eu peiriannau. Rhai wedi eu cadw'n ofalus o dan do ers blynyddoedd ac eraill wedi eu hachub o gyflwr trychinebus, mae gennym ddyled fawr iddynt am gadw darn o hanes amaethyddiaeth a chefn gwlad. Un peth a dynnodd fy llygad yn arbennig oedd Fordson "N" lliw oren, Y 'ffordson bach' i ni ar lafar gwlad. Mae'n stori hir; breuddwyd yr Henry Ford ifanc oedd cael peiriant i ysgafnhau'r gwaith ar y ffarm, gan ei fod wedi bod yn gweithio fel llanc ifanc ar ffarm ei dad a'i fam, oedd wedi ymfudo o'r Iwerddon i'r America. Cafodd lwyddiant mawr yn cynhyrchu'r modur "Ford Model T" a lansiwyd ar Hydref 1af 1908, fe werthwyd dros bymtheg miliwn ohonynt i gyd. Dim rhyfedd bod tua saithdeg o gwmnïau yn America a Phrydain yn gwneud "Conversion kit" i droi rhai o'r 'Model T' yn dractorau. Yn ystod y miri o wneud y 'Model T' fe fu Henry Ford a'i beirianwyr yn brysur yn datblygu tractor newydd. Ar ôl treialon ar y tir, fe lansiwyd y 'Fordson Model F' yn 1917. Roedd yn dractor o haearn solet, yn wahanol i'r ceir a droswyd yn dractorau yn gynharach. Tractor llwyd oedd o, hefo olwynion coch, ac fe'i cynhyrchwyd o 1917 hyd at 1928. Yn 1928 fe gafodd y 'Fordson F' ei wella a'i alw'n 'Fordson N'. Fe gafodd hwnnw ei gynhyrchu yn ddi-dor hyd y 4ydd o Fehefin 1945 - 28 o flynyddoedd o gynhyrchu yr un model fwy na heb. Roedd hyn yn hirach na'r un tractor arall erioed. Yn ystod y rhyfel roedd Dagenham yn troi allan 100 o Fordsons y dydd, am tua £195 yr un. Mae un mewn cyflwr da heddiw yn werth tua £2000.Felly, be am i chi archwilio yr hen siediau 'na? Beth sydd tu ôl i'r hen shitiau sinc 'na ... Does wybod!
 |